Rhaglen Wythnos Awst 6
WYTHNOS YN CYCHWYN AWST 6
Cân 32 a Gweddi
□ Astudiaeth Feiblaidd y Gynulleidfa:
lv pen. 11 ¶20-22, a’r blwch t. 131 (25 mun.)
□ Ysgol y Weinidogaeth:
Darlleniad o’r Beibl: Eseciel 24-27 (10 mun.)
Rhif 1: Eseciel 24:15-27 (hyd at 4 mun.)
Rhif 2: Beth Yw Ystyr y Gair “Ysbryd”? —bh t. 210 o’r is-bennawd–t. 211 (5 mun.)
Rhif 3: Ydy Eseciel 18:20 yn Gwrth-ddweud Exodus 20:5? (5 mun.)
□ Cyfarfod Gwasanaeth:
5 mun: Cyhoeddiadau.
10 mun: Ydych Chi’n Barod ar Gyfer y Flwyddyn Ysgol Newydd? Trafodaeth. Gofynnwch i’r gynulleidfa esbonio rhai o’r problemau mae Cristnogion ifainc yn eu hwynebu yn yr ysgol. Eglurwch sut gall rhieni ddefnyddio’r Index, y llyfrau Young People Ask, ac offer theocrataidd eraill yn ystod addoliaeth teuluol i helpu eu plant i wrthsefyll temtasiynau ac i egluro’u ffydd. (1 Pedr 3:15) Rhowch enghraifft neu ddwy o’r wybodaeth ddefnyddiol sydd ar gael yn ein cyhoeddiadau. Gofynnwch i’r cyhoeddwyr sut roedden nhw’n tystiolaethu yn yr ysgol.
10 mun: Anghenion lleol.
10 mun: Syniadau ar Gyfer Cynnig y Cylchgronau ym Mis Awst. Trafodaeth. Treuliwch rhwng 30 a 60 eiliad i egluro pam bydd y cylchgronau yn apelio at bobl yn y diriogaeth. Nesaf, gan ddefnyddio’r erthyglau sy’n cael sylw ar glawr y Watchtower, gofynnwch i’r gynulleidfa gynnig cwestiynau a fydd yn ennyn diddordeb, ac awgrymu adnodau i’w darllen. Gwnewch yr un fath ar gyfer yr erthyglau ar glawr Awake! ac, os oes digon o amser, ar gyfer un erthygl arall o’r naill gylchgrawn neu’r llall. Dangoswch sut y gellir cynnig pob cylchgrawn.
Cân 19 a Gweddi