LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w24 Mehefin tt. 14-18
  • Gwrandawodd Jehofa ar Fy Ngweddïau

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Gwrandawodd Jehofa ar Fy Ngweddïau
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • GALWAD A WNAETH NEWID FY MYWYD
  • BYWYD YN YSTOD Y RHYFEL
  • TYFIANT YSBRYDOL
  • YN GWASANAETHU’N LLAWN AMSER
  • DIOGELU EIN HAWLIAU CYFREITHIOL
  • CIWBA YN AGOR I FYNY
  • HELPU EIN BRODYR YN RWANDA
  • YN BENDERFYNOL O AROS YN FFYDDLON
  • Dw i Wedi Mwynhau Dod i Adnabod Jehofa a Dysgu Eraill Amdano
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
w24 Mehefin tt. 14-18
Marcel Gillet yn ei swyddfa yng nghangen gwlad Belg.

HANES BYWYD

Gwrandawodd Jehofa ar Fy Ngweddïau

GAN MARCEL GILLET

YN DDENG mlwydd oed, edrychais ar y sêr yn disgleirio yn y nos. Es i lawr ar fy ngliniau ar unwaith a dechrau gweddïo. Er fy mod i newydd ddysgu am Jehofa, rhannais fy holl feddyliau a theimladau ag ef. Dyna beth ddechreuodd fy mherthynas agos â Jehofa, yr un “sy’n gwrando gweddïau.” (Salm 65:2) Gad imi rannu pam gwnes i weddïo ar y Duw roeddwn i ond newydd ddod i’w adnabod.

GALWAD A WNAETH NEWID FY MYWYD

Ces i fy ngeni ar Ragfyr 22, 1929, yn Noville, pentref bach o naw fferm sy’n agos i Bastogne, yn yr Ardennes yng ngwlad Belg. Mae gen i atgofion melys o gael fy magu ar y fferm. Roedd fy mrawd iau, Raymond, a minnau’n godro’r gwartheg bob diwrnod ac yn helpu gyda phob cynhaeaf. Roedd ein pentref yn gymuned agos ac roedd pawb yn helpu ei gilydd.

Yn gweithio gyda fy nheulu ar ein fferm

Roedd fy rhieni, Emile ac Alice, yn Gatholigion selog a oedd yn mynd i’r eglwys bob dydd Sul. Ond, o gwmpas 1939, daeth arloeswyr o Loegr i’n pentref a chynnig i fy nhad danysgrifiad i’r cylchgrawn Consolation (sydd bellach yn cael ei alw’n Deffrwch!). Gwnaeth y gwirioneddau a ddarllennodd yn y cylchgronau gyffwrdd â’i galon a’i gymell i ddechrau darllen y Beibl. Unwaith i fy nhad stopio mynychu’r Offeren yn yr eglwys, gwnaeth ein cymdogion caredig droi’n gas a dechrau ein gwrthwynebu ni. Roedd fy nhad o dan bwysau ofnadwy i beidio â gadael yr eglwys, ac roedd ’na lawer o ddadleuon ffyrnig.

Roedd hi’n anodd iawn imi weld fy nhad o dan gymaint o bwysau. Dyna pam gwnes i droi at Dduw am help yn y weddi ar gychwyn yr erthygl hon. Dros amser, gwnaeth ein cymdogion stopio ein gwrthwynebu ni, ac roeddwn i wrth fy modd. Gwnaeth hyn brofi imi fod Jehofa’n “gwrando gweddïau.”

BYWYD YN YSTOD Y RHYFEL

Daeth y Natsïaid i wlad Belg ar Fai 10, 1940, a gwnaeth hyn achosi i lawer o bobl adael y wlad. Gwnaethon ni ffoi i dde Ffrainc, ac ar hyd y ffordd, daethon ni ar draws brwydrau difrifol rhwng byddin yr Almaen a byddin Ffrainc.

Pan ddaethon ni’n ôl i’r fferm, gwelon ni fod y rhan fwyaf o’n heiddo wedi cael ei ddwyn. Dim ond ein ci, Bobbie, oedd yno i’n croesawu ni. Roedd profiadau o’r fath yn gwneud imi ofyn, ‘Pam mae ’na gymaint o ryfel a thristwch?’

Marcel yn ei arddegau.

Yn fy arddegau, datblygais berthynas agosach â Jehofa

O gwmpas yr adeg honno, cawson ni ein hannog gan y Brawd Emile Schrantz,a henuriad ffyddlon a oedd yn arloesi. Gwnaeth ef esbonio’n glir o’r Beibl pam rydyn ni’n dioddef, ac atebodd lawer o fy nghwestiynau eraill am fywyd. Gwnes i gryfhau fy mherthynas â Jehofa, ac roeddwn i’n hyderus ei fod yn Dduw cariadus.

Hyd yn oed cyn i’r rhyfel orffen, roedden ni’n gallu cymdeithasu’n rheolaidd â brodyr a chwiorydd eraill. Yn Awst 1943, gwnaeth y Brawd José-Nicolas Minet ddod i’n fferm i roi anerchiad. Gofynnodd: “Pwy sydd eisiau cael ei fedyddio?” Gwnaeth fy nhad a minnau godi ein dwylo. Cawson ni ein bedyddio mewn afon fach yn agos i’n fferm.

Ym mis Rhagfyr 1944, dechreuodd byddin yr Almaen ei hymosodiad mawr olaf yng Ngorllewin Ewrop, sy’n cael ei alw “The Battle of the Bulge.” Roedden ni’n byw’n agos at y frwydr, ac roedd rhaid inni aros yn ein seler am tua mis. Un diwrnod, pan es i allan i fwydo’r anifeiliaid, cafodd y fferm ei daro gan arfau saeth a wnaeth ffrwydro a chwythu to’r ysgubor i ffwrdd. Gwnaeth milwr o America a oedd yn y stabl alw allan imi a dweud: “Gorwedda i lawr!” Rhedais a gorwedd wrth ei ymyl, a rhoddodd ef ei helmed ar fy mhen i’m hamddiffyn i.

TYFIANT YSBRYDOL

Ar ddiwrnod ein priodas

Ar ôl y rhyfel, roedden ni’n gallu cadw cyswllt â chynulleidfa yn Liège, rhyw 56 milltir (90 km) i’r Gogledd. Mewn amser, roedden ni’n gallu sefydlu grŵp bach astudio yn Bastogne. Dechreuais weithio mewn swyddfa trethi, lle ces i’r cyfle i astudio’r gyfraith. Yn nes ymlaen, dechreuais weithio mewn swyddfa’r llywodraeth leol. Ym 1951, dyma ni’n trefnu cynulliad cylchdaith bach yn Bastogne. Roedd ’na tua chant yn bresennol, gan gynnwys arloeswraig selog iawn o’r enw Elly Reuter. Gwnaeth hi seiclo 31 milltir (50 km) i fynychu. Yn fuan, gwnaethon ni syrthio mewn cariad a dyma ni’n dyweddïo. Roedd Elly wedi cael gwahoddiad i fynychu Ysgol Gilead yn yr Unol Daleithiau. Ysgrifennodd hi at y pencadlys i esbonio pam roedd rhaid iddi wrthod y gwahoddiad. Dyma’r Brawd Knorr, a oedd yn cymryd y blaen bryd hynny, yn ymateb a dweud efallai byddai hi’n gallu mynychu Gilead gyda’i gŵr rywbryd yn y dyfodol. Gwnaethon ni briodi yn Chwefror 1953.

Elly a’n mab, Serge

Yn yr un flwyddyn, dyma Elly a minnau’n mynychu’r New World Society Assembly, a oedd yn cael ei gynnal yn Yankee Stadium, Efrog Newydd. Cwrddon ni â brawd a wnaeth gynnig swydd i mi a’n gwahodd ni i symud i’r Unol Daleithiau. Ar ôl siarad â Jehofa mewn gweddi, penderfynon ni wrthod ei wahoddiad a mynd yn ôl i wlad Belg i gefnogi grŵp bach o tua deg cyhoeddwr yn Bastogne. Ar ôl blwyddyn, dyma ni’n cael ein bendithio gyda bachgen bach, Serge. Ond yn drist iawn, ar ôl saith mis, dyma Serge yn mynd yn sâl a bu farw. Dyma ni’n rhannu ein poen gyda Jehofa mewn gweddi, a gwnaeth gobaith yr atgyfodiad ein cryfhau ni.

YN GWASANAETHU’N LLAWN AMSER

Yn Hydref 1961, des i o hyd i waith rhan-amser a oedd yn caniatáu imi arloesi. Ond, ar yr un diwrnod, ces i alwad ffôn gan was y gangen yng ngwlad Belg. Gofynnodd a oeddwn i ar gael i wasanaethu fel arolygwr cylchdaith. Gofynnais: “A allwn ni arloesi’n gyntaf cyn derbyn yr aseiniad?” Cafodd fy nghais ei gymeradwyo. Ar ôl arloesi am wyth mis, dechreuon ni ar y gwaith cylch ym Medi 1962.

Dwy flynedd ar ôl inni ddechrau yn y gwaith cylch, cawson ni ein gwahodd i wasanaethu yn y Bethel yn Brussels ym mis Hydref 1964. Gwnaeth ein haseiniad newydd ddod â llawer o fendithion inni. Er mawr syndod imi, ges i fy mhenodi fel gwas y gangen ar ôl i’r Brawd Knorr ymweld â’n Bethel ym 1965. Yn nes ymlaen, cafodd Elly a minnau ein gwahodd i fynychu dosbarth 41 o Gilead. Roedd geiriau’r Brawd Knorr, 13 mlynedd ynghynt, wedi dod yn wir! Ar ôl inni raddio, gwnaethon ni ddod yn ôl i’r Bethel yng ngwlad Belg.

DIOGELU EIN HAWLIAU CYFREITHIOL

Dros y blynyddoedd, rydw i wedi cael y fraint o ddefnyddio fy mhrofiad cyfreithiol i ddiogelu ein rhyddid i addoli yn Ewrop a llefydd eraill. (Phil. 1:7) O ganlyniad i hyn, rydw i wedi cysylltu â swyddogion mewn mwy na 55 gwlad lle roedd ein gwaith wedi ei wahardd. Yn hytrach na phwysleisio faint o brofiad cyfreithiol oedd gen i, roeddwn i’n cyflwyno fy hun fel “gwas i Dduw.” Roeddwn i’n wastad yn gweddïo am arweiniad Jehofa, gan wybod bod “penderfyniadau’r brenin fel sianel ddŵr yn llaw’r ARGLWYDD; mae’n ei arwain i ble bynnag mae e eisiau.”—Diar. 21:1.

Un profiad a wnaeth argraff fawr arna i oedd sgwrs ges i gydag aelod o Senedd Ewrop. Gofynnais sawl gwaith i siarad ag ef a chytunodd o’r diwedd. Dywedodd: “Gwna i roi pum munud ichi, a dim eiliad mwy.” Gwnes i ostwng fy mhen a dechrau gweddïo. Gwnaeth hyn achosi iddo deimlo’n nerfus, a gofynnodd beth roeddwn i’n ei wneud. Codais fy mhen, ac atebais: “Roeddwn i’n diolch i Dduw, oherwydd eich bod chi’n un o’i weinidogion.” Gofynnodd: “Beth rydych chi’n ei feddwl?” Gwnes i ddangos Rhufeiniaid 13:4 iddo. Roedd ef yn Brotestant, felly gwnaeth y Beibl dynnu ei sylw. O ganlyniad, rhoddodd hanner awr imi, a chawson ni gyfarfod llwyddiannus iawn. Gwnaeth ef hyd yn oed ddweud ei fod yn parchu ein gwaith.

Dros y blynyddoedd, mae pobl Jehofa wedi brwydro llawer o achosion yn y llys yn Ewrop yn ymwneud â niwtraliaeth Gristnogol, gwarchodaeth plant, trethi, a mwy. Mae wedi bod yn fraint imi gael rhan yn llawer ohonyn nhw a gweld sut mae Jehofa wedi rhoi llwyddiant a buddugoliaeth inni. Hyd heddiw, mae Tystion Jehofa wedi ennill dros 140 o achosion yn Llys Hawliau Dynol Ewrop!

CIWBA YN AGOR I FYNY

Yn ystod y 1990au, gweithiais ochr yn ochr â’r Brawd Philip Brumley o’r pencadlys a’r Brawd Valter Farneti o’r Eidal i ennill rhyddid crefyddol i’n brodyr yn Ciwba, lle roedd ein gwaith o dan waharddiad. Ysgrifennais at lysgenhadaeth Ciwba yng ngwlad Belg, ac yna gwnes i gwrdd â swyddog oedd wedi cael ei benodi i ddelio â’n cais. Yn ein cyfarfodydd cyntaf, roedden ni’n methu datrys y problemau oedd wedi arwain at ein gwaith yn cael ei gyfyngu.

Gyda Philip Brumley a Valter Farneti yn ystod un o’n hymweliadau i Ciwba yn y 1990au

Ar ôl troi at Jehofa am arweiniad, gwnaethon ni ofyn am ganiatâd i anfon 5,000 o Feiblau i Ciwba. Cyrhaeddodd y Beiblau’n saff a chawson nhw eu dosbarthu i’r brodyr. Roedden ni’n teimlo bod Jehofa’n bendithio ein hymdrechion. Wedyn, cawson ni ganiatâd i anfon 27,500 o Feiblau ychwanegol. Roedd helpu ein brodyr a’n chwiorydd yn Ciwba i gael copïau personol o’r Beibl yn rhoi cymaint o lawenydd imi.

Dwi wedi mynd i Ciwba sawl gwaith i wella sefyllfa gyfreithiol ein gwaith. Yn y broses, llwyddais i adeiladu perthynas dda gyda llawer o swyddogion y llywodraeth.

HELPU EIN BRODYR YN RWANDA

Ym 1994 cafodd mwy na 1,000,000 o bobl eu lladd mewn hil-laddiad yn erbyn y Tutsi yn Rwanda. Yn drist iawn, cafodd rhai o’n brodyr a’n chwiorydd eu lladd. Yn fuan wedyn, cafodd grŵp o frodyr eu haseinio i roi cymorth ac adnoddau i’n teulu ysbrydol yno.

Pan gyrhaeddodd ein grŵp y brifddinas, Kigali, gwelon ni fod waliau’r swyddfa gyfieithu a’r storfa lenyddiaeth yn llawn bwledi. Clywson ni lawer o straeon trist ofnadwy am frodyr a chwiorydd oedd wedi cael eu llofruddio. Ond clywson ni hefyd lawer o hanesion am gariad Cristnogol ar waith. Er enghraifft, gwnaethon ni gwrdd â brawd Tutsi oedd wedi ei amddiffyn gan deulu o Dystion Hutu. Roedd wedi bod yn cuddio mewn twll o dan y ddaear am 28 diwrnod. Yn ystod cyfarfod yn Kigali, gwnaethon ni roi cysur ysbrydol i fwy na 900 o frodyr a chwiorydd.

Collage: 1. Llyfr clawr caled yn ddarnau. 2. Marcel gyda dau frawd yng nghanol darpariaethau ar gyfer gwaith cymorth.

Chwith: Llyfr a gafodd ei daro gan fwled yn ein swyddfa gyfieithu

De: Gweithio gyda darpariaethau ar gyfer gwaith cymorth

Nesaf, gwnaethon ni groesi drosodd i Saïr (sef Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo erbyn hyn) i chwilio am nifer fawr o Dystion Rwanda a oedd wedi ffoi i wersylloedd yn agos i ddinas Goma. Doedden ni ddim yn gallu eu ffeindio nhw, felly gwnaethon ni weddïo ar Jehofa am help i ddod o hyd iddyn nhw. Yna, gwelson ni rywun yn cerdded tuag aton ni. Gofynnon ni os oedd yn adnabod unrhyw Dystion Jehofa. “Ie, dwi’n Dyst,” meddai. “Bydda i’n hapus i ddod â chi i’r pwyllgor cymorth.” Ar ôl cyfarfod adeiladol gyda’r pwyllgor cymorth, gwnaethon ni gwrdd â 1,600 o ffoaduriaid. Rhoddon ni gysur ysbrydol ac anogaeth iddyn nhw a darllen llythyr gan y Corff Llywodraethol. Gwnaeth y geiriau canlynol gyffwrdd â chalonnau’r brodyr a’r chwiorydd: “Rydyn ni’n gweddïo drostoch chi’n ddi-baid. Rydyn ni’n gwybod fydd Jehofa byth yn cefnu arnoch chi.” Mae geiriau’r Corff Llywodraethol wedi eu profi’n wir. Heddiw, mae dros 30,000 o Dystion yn gwasanaethu Jehofa’n llawen yn Rwanda!

YN BENDERFYNOL O AROS YN FFYDDLON

Ar ôl bod yn briod am bron i 58 o flynyddoedd, collais fy ngwraig annwyl Elly yn 2011. Gwnaeth Jehofa fy nghysuro i wrth imi rannu fy ngalar ag ef mewn gweddi. Gwnes i hefyd gael fy nghysuro drwy rannu’r newyddion da am y Deyrnas â fy nghymdogion.

Er fy mod i bellach yn fy nawdegau, dwi’n dal yn cael rhan yn y weinidogaeth bob wythnos. Mae hefyd yn fraint anhygoel i helpu’r adran gyfreithiol yma yng nghangen gwlad Belg, i rannu fy mhrofiad ag eraill, ac i fugeilio’r rhai ifanc yn y Bethel.

Gweddïais ar Jehofa am y tro cyntaf tua 84 mlynedd yn ôl. Gwnaeth hynny ddechrau fy nhaith ryfeddol sydd wedi fy helpu i agosáu at Jehofa ers hynny. Dwi mor ddiolchgar bod Jehofa wedi gwrando ar fy ngweddïau drwy gydol fy mywyd.—Salm 66:19.b

a Cafodd hanes bywyd y Brawd Schrantz ei gyhoeddi yn rhifyn Medi 15, 1973, o’r Tŵr Gwylio Saesneg, tt. 570-574.

b Tra oedd yr erthygl hon yn cael ei pharatoi, bu farw ein brawd, Marcel Gillet, ar Chwefror 4, 2023.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu