ERTHYGL ASTUDIO 40
CÂN 30 Fy Nhad, Fy Nuw a’m Ffrind
Mae Jehofa’n “Iacháu y Rhai Sydd Wedi Torri Eu Calonnau”
“Mae e’n iacháu y rhai sydd wedi torri eu calonnau, ac yn rhwymo’u briwiau.”—SALM 147:3.
PWRPAS
Mae Jehofa’n teimlo dros y rhai sy’n dioddef oherwydd poen emosiynol. Bydd yr erthygl hon yn dangos sut y mae’n ein cysuro ni, a’n helpu ni i gysuro eraill.
1. Sut mae Jehofa’n teimlo am ei weision?
BETH mae Jehofa’n ei weld pan mae’n edrych ar ei bobl ar y ddaear? Mae’n gwybod am ein teimladau i gyd, y da a’r drwg. (Salm 37:18) Mae Jehofa mor hapus wrth inni wneud ein gorau glas yn ein gwasanaeth er gwaethaf emosiynau poenus. Yn fwy na hynny, mae’n awyddus i’n cefnogi a’n cysuro ni.
2. Beth mae Jehofa’n ei wneud ar gyfer y rhai sydd wedi torri eu calonnau, a sut rydyn ni’n elwa o’i ofal?
2 Mae Salm 147:3 yn dweud bod Jehofa’n ‘rhwymo briwiau’ y rhai sydd wedi torri eu calonnau. Yma, rydyn ni’n gweld disgrifiad o Jehofa yn gofalu’n dyner am y rhai sydd wedi cael eu brifo’n emosiynol. Beth sy’n rhaid inni ei wneud er mwyn elwa o ofal Jehofa? Ystyria’r eglureb hon: Gall doctor medrus wneud cymaint i helpu i iacháu rhywun sydd wedi brifo. Ond, mae’n rhaid i’r person ddilyn cyfarwyddiadau’r doctor yn ofalus er mwyn elwa’n llawn. Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n gweld yr hyn y mae Jehofa’n ei ddweud yn ei Air i’r rhai sy’n dioddef yn emosiynol, a byddwn ni’n ystyried sut gallwn ni roi ei gyngor cariadus ar waith.
MAE JEHOFA’N EIN HATGOFFA NI EIN BOD NI’N WERTHFAWR IAWN IDDO
3. Pam mae rhai yn teimlo’n ddi-werth?
3 Yn drist iawn, rydyn ni’n byw mewn byd heb gariad sydd wedi gwneud i lawer deimlo eu bod nhw’n ddi-werth. Mae chwaer o’r enw Helena yn dweud: “Gwnes i dyfu lan mewn teulu digariad. Roedd fy nhad yn dreisgar ac fe wnaeth ddweud wrthon ni bob dydd ein bod ni’n dda i ddim.” Efallai, fel Helen, rwyt ti wedi cael dy gam-drin, dy fychanu, neu dy wneud i deimlo dy fod ti’n ddi-werth. Os felly, efallai bydd yn anodd iti gredu bod rhywun yn wir yn gofalu amdanat ti.
4. Yn ôl Salm 34:18, o beth gallwn ni fod yn sicr?
4 Hyd yn oed os ydy eraill wedi dy gam-drin, gelli di fod yn sicr bod Jehofa’n dy garu di ac yn dy drysori di. Mae’n “agos at y rhai sydd wedi torri eu calonnau.” (Darllen Salm 34:18.) Os wyt ti’n teimlo dy fod ti wedi “anobeithio,” cofia fod Jehofa wedi gweld pethau da yn dy galon ac wedi dy ddenu di ato. (Ioan 6:44) Mae’n wastad yn barod i dy helpu di oherwydd dy fod ti’n werthfawr iawn iddo.
5. Beth gallwn ni ei ddysgu o’r ffordd roedd Iesu’n trin y rhai a oedd yn teimlo’n ddi-werth?
5 Gallwn ni ddysgu am sut mae Jehofa’n teimlo drwy ystyried esiampl Iesu. Yn ystod ei weinidogaeth, roedd Iesu’n garedig iawn i’r rhai a oedd yn teimlo’n ddi-werth, ac roedd yn eu trin nhw gyda thosturi. (Math. 9:9-12) Pan wnaeth dynes a oedd yn gobeithio cael ei hiacháu o salwch difrifol gyffwrdd â dillad Iesu, gwnaeth ef ei chysuro a’i chanmol hi am ei ffydd. (Marc 5:25-34) Mae Iesu’n efelychu personoliaeth ei dad yn berffaith. (Ioan 14:9) Felly, gelli di fod yn sicr bod Jehofa’n dy garu di ac yn gweld dy holl rinweddau da, gan gynnwys dy ffydd a dy gariad ato.
6. Sut gall person ymdopi â theimladau o fod yn ddi-werth?
6 Beth gelli di ei wneud os ydy amheuon am dy hunan-werth yn parhau? Darllena adnodau o’r Beibl sy’n cadarnhau dy hunan-werth i Jehofa ac yna myfyria arnyn nhw.b (Salm 94:19) Os wyt ti wedi methu cyrraedd nod, neu wedi digalonni oherwydd dwyt ti ddim yn gallu gwneud cymaint ag eraill, paid â bod yn rhy galed arnat ti dy hun. Dydy Jehofa ddim yn disgwyl gormod gen ti. (Salm 103:13, 14) Os ydy rhywun wedi dy gam-drin di yn y gorffennol, paid â rhoi’r bai arnat ti dy hun. Doeddet ti ddim yn haeddu triniaeth o’r fath! Cofia, mae’r rhai sydd wedi gwneud drwg yn cael eu barnu gan Jehofa, ond mae’n helpu’r rhai sydd wedi cael eu cam-drin. (1 Pedr 3:12) Dywedodd Sandra, a gafodd ei cham-drin pan oedd hi’n blentyn: “Dwi’n gofyn i Jehofa yn rheolaidd i fy helpu i weld y rhinweddau da y mae Ef yn eu gweld yno i.”
7. Ym mha ffordd dda gallwn ni ddefnyddio ein profiad bywyd yng ngwasanaeth Jehofa?
7 Paid byth ag amau bod Jehofa’n gallu dy ddefnyddio di i helpu eraill. Mae wedi rhoi’r fraint i ti o fod yn gyd-weithiwr ag ef yn y gwaith pregethu. (1 Cor. 3:9) Mae’n debygol bod dy brofiad bywyd yn dy alluogi di i gydymdeimlo ag eraill. Gelli di wneud llawer i’w helpu nhw. Oherwydd yr help mae hi wedi ei dderbyn, mae Helen erbyn hyn yn gallu helpu eraill yn fwy. Mae hi’n dweud: “Roeddwn i’n teimlo fel person dibwys, ond mae Jehofa wedi dangos ei gariad ac wedi gwneud imi deimlo’n ddefnyddiol iawn.” Mae Helen yn hapus i wasanaethu fel arloeswraig llawn amser.
MAE JEHOFA EISIAU INNI DDERBYN EI FADDEUANT
8. Beth mae Jehofa yn sicrhau yn ôl Eseia 1:18?
8 Mae rhai o weision Jehofa yn dal i deimlo’n bryderus am gamgymeriadau gwnaethon nhw cyn cael eu bedyddio neu hyd yn oed ar ôl. Ond cofia, rhoddodd Jehofa ei unig-anedig fab oherwydd ei gariad dwfn tuag aton ni. Gallwn ni fod yn hyderus bod Jehofa eisiau inni dderbyn ei anrheg. Os ydyn ni a Jehofa yn deall ein gilydd, neu wedi gwneud pethau’n iawn rhyngon ni,c fydd Jehofa ddim yn dal ein pechodau yn ein herbyn ni. (Darllen Eseia 1:18.) Am beth gariadus bod Jehofa’n dewis i anghofio ein pechodau o’r gorffennol! Hefyd, nid yw Ef byth yn anghofio ein gweithredoedd da.—Salm 103:9, 12; Heb. 6:10.
9. Pam dylen ni wneud ein gorau glas er mwyn canolbwyntio ar y presennol a’r dyfodol, yn hytrach na’r gorffennol?
9 Mae’n bwysig i wneud dy orau glas er mwyn canolbwyntio ar y presennol a’r dyfodol yn hytrach nag ar gamgymeriadau’r gorffennol. Ystyria esiampl yr apostol Paul. Gwnaeth ddifaru ei fod wedi erlid y Cristnogion yn ffyrnig. Ond, roedd yn gwybod bod Jehofa wedi maddau iddo. (1 Tim. 1:12-15) A wnaeth ef barhau i fyfyrio ar ei bechodau o’r gorffennol? Mae’n amlwg ei fod wedi gwrthod gwneud hynny, yn union fel roedd yn gwrthod meddwl am yr hyn a wnaeth pan oedd yn Pharisead. (Phil. 3:4-8, 13-15) Yn lle hynny, gwnaeth Paul barhau i wneud ei orau yn y weinidogaeth, ac edrychodd ymlaen at y dyfodol. Fel Paul, ni elli di newid y gorffennol. Ond, gelli di ddod â chlod i Jehofa yn dy amgylchiadau presennol, ac edrych ymlaen at y dyfodol anhygoel y mae ef wedi addo ei roi iti.
10. Beth gallwn ni ei wneud os ydyn ni wedi brifo rhywun yn y gorffennol?
10 Efallai dy fod ti’n poeni am rywbeth rwyt ti wedi ei wneud yn y gorffennol sydd wedi brifo eraill. Beth all helpu? Gwna beth gelli di i adfer dy berthynas â nhw, gan gynnwys ymddiheuro. (2 Cor. 7:11) Gofynna i Jehofa helpu’r rhai rwyt ti wedi eu brifo. Wedyn, gall Jehofa dy helpu di a nhwthau i ddyfalbarhau ac i gael heddwch.
11. Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl y proffwyd Jona? (Gweler hefyd y llun ar y clawr.)
11 Dysga o’r gorffennol, a bydda’n fodlon i adael i Jehofa dy ddefnyddio di mewn unrhyw ffordd mae’n ei dewis. Ystyria esiampl y proffwyd Jona. Gorchmynnodd Duw iddo deithio i Ninefe ond gwnaeth Jona ffoi i’r cyfeiriad gyferbyn. Dysgodd Jona o’i gamgymeriad ar ôl cael ei ddisgyblu gan Jehofa. (Jona 1:1-4, 15-17; 2:7-10) Ni wnaeth Jehofa roi’r gorau i ddefnyddio Jona fel proffwyd. Rhoddodd Jehofa gyfle arall iddo fynd i Ninefe, ac y tro hwnnw roedd Jona’n gyflym i ufuddhau. Ni wnaeth ef adael i’w gamgymeriad yn y gorffennol ei ddal yn ôl rhag derbyn yr aseiniad hwn oddi wrth Jehofa.—Jona 3:1-3.
Ar ôl i’r proffwyd Jona ddod allan o’r pysgodyn anferth, dywedodd Jehofa wrtho unwaith eto i fynd i Ninefe a chyhoeddi Ei neges (Gweler paragraff 11)
MAE YSBRYD GLÂN JEHOFA’N EIN CYSURO NI
12. Sut mae Jehofa’n rhoi heddwch inni ar ôl profi trawma neu golled? (Philipiaid 4:6, 7)
12 Trwy ei ysbryd glân, mae Jehofa’n ein cysuro pan ydyn ni’n profi trawma ofnadwy. Ystyria hanes Ron a Carol. Yn drist iawn, gwnaeth eu mab gymryd ei fywyd ei hun. Maen nhw’n dweud: “Dyma’r treial gwaethaf roedden ni erioed wedi ei brofi. Yn ystod y nosweithiau di-gwsg, ar ôl gweddïo ar Jehofa, gwnaethon ni deimlo’r gwir heddwch sy’n cael ei ddisgrifio yn Philipiaid 4:6, 7.” (Darllen.) Os wyt ti’n wynebu treial sy’n torri dy galon, tywallt dy galon i Jehofa mewn gweddi a dyweda yn union sut rwyt ti’n teimlo. Gelli di wneud hyn sawl gwaith a does dim rhaid iti boeni bod dy weddïau byth yn rhy hir. (Salm 86:3; 88:1) Dal ati i ofyn i Jehofa am ei ysbryd glân. Fydd ef byth yn troi ei gefn arnat ti.—Luc 11:9-13.
13. Sut gall ysbryd glân Jehofa ein helpu ni i barhau i’w wasanaethu ef yn ffyddlon? (Effesiaid 3:16)
13 A wyt ti’n wan ar ôl wynebu treial ofnadwy o anodd? Gall ysbryd glân roi’r nerth iti barhau i wasanaethu Jehofa’n ffyddlon. (Darllen Effesiaid 3:16.) Ystyria esiampl chwaer o’r enw Flora. Roedd hi a’i gŵr yn gwasanaethu gyda’i gilydd fel cenhadon pan oedd ei gŵr hi’n anffyddlon ac fe wnaethon nhw ysgaru. Mae hi’n dweud: “Gwnaeth ei fradychiad fy mrifo i i’r byw, a doeddwn i ddim yn gallu meddwl am unrhyw beth arall. Gwnes i weddïo ar Jehofa am ei ysbryd glân er mwyn dal ati. Rhoddodd Jehofa gysur i mi, a gwnaeth Ef fy helpu i ddyfalbarhau trwy rywbeth a oedd i’w weld yn hollol anobeithiol ar y dechrau.” Mae Jehofa wedi cryfhau ei hyder hi, ac mae hi nawr yn gwybod y bydd Jehofa yn ei helpu hi drwy unrhyw dreial. Mae Flora’n mynd ymlaen i ddweud: “Mae geiriau’r salmydd yn berthnasol iawn imi: ‘Bydda i’n dilyn ffordd dy orchmynion yn daer oherwydd dy fod ti wedi gwneud lle iddi yn fy nghalon.’”—Salm 119:32, NWT.
14. Sut gallwn ni gael mwy o ysbryd Duw?
14 Ar ôl gofyn i Jehofa am ei ysbryd glân, beth dylet ti ei wneud? Cymryd rhan mewn pethau a fydd yn dy alluogi di i gael mwy o ysbryd Duw. Mae hyn yn cynnwys mynychu’r cyfarfodydd a chymryd rhan yn y weinidogaeth. Darllena Air Duw bob dydd. Bydd hyn yn dy helpu di i fyfyrio ar ei deimladau. (Phil. 4:8, 9) Wrth iti ddarllen, ystyria gymeriadau’r Beibl a wynebodd heriau a myfyria ar sut gwnaeth Jehofa eu helpu nhw i ddyfalbarhau. Gwnaeth Sandra, a ddyfynnwyd yn gynharach, ddioddef oherwydd roedd ganddi lawer o broblemau yn ei bywyd. Mae hi’n dweud: “Mae hanes Joseff yn wir yn cyffwrdd fy nghalon. Pan gafodd ei drin yn annheg a wynebu treialon ofnadwy, ni wnaeth byth adael iddyn nhw wanhau ei berthynas â Jehofa.”—Gen. 39:21-23.
MAE JEHOFA’N DEFNYDDIO EIN BRODYR A’N CHWIORYDD I’N CYSURO NI
15. Pwy a all ein cysuro ni, a sut gallan nhw ein helpu ni? (Gweler hefyd y llun.)
15 Pan ydyn ni’n dioddef, gall ein cyd-gredinwyr fod yn “gysur mawr” inni. (Col. 4:11) Mae Jehofa’n dangos ei gariad tuag aton ni drwy ein brodyr a’n chwiorydd. Gallan nhw ein cysuro ni drwy wrando gyda chydymdeimlad, neu gallan nhw ein helpu ni drwy fod wrth ein hochr. Efallai y byddan nhw’n ein calonogi ni gydag adnod o’r Beibl, neu drwy ddweud gweddi gyda ni.d (Rhuf. 15:4) Ar adegau, efallai bydd brawd neu chwaer yn ein helpu ni i feddwl yn gytbwys drwy ein hatgoffa ni o safbwynt Jehofa. Gallan nhw hefyd ein cefnogi ni mewn ffyrdd ymarferol, er enghraifft trwy roi pryd o fwyd inni er mwyn ein helpu ni i deimlo’n well.
Mae ffrindiau aeddfed rydyn ni’n eu trystio yn gallu rhoi cysur a chefnogaeth inni (Gweler paragraff 15)
16. Ar adegau, beth bydd rhaid inni ei wneud er mwyn derbyn help gan eraill?
16 Weithiau, bydd angen gofyn am help oddi wrth eraill. Mae ein brodyr a’n chwiorydd yn ein caru ni ac eisiau ein cefnogi ni. (Diar. 17:17) Ond, efallai dydyn nhw ddim yn gwybod sut rydyn ni’n teimlo neu beth sydd ei angen arnon ni. (Diar. 14:10) Os wyt ti’n teimlo poen emosiynol, bydda’n barod i rannu dy deimladau gyda ffrindiau da. Gad iddyn nhw wybod beth fydd yn dy helpu di. Efallai byddi di’n teimlo’n ddigon cyfforddus i siarad ag un neu ddau o’r henuriaid. Mae rhai chwiorydd wedi cael cysur mawr drwy siarad â chwaer aeddfed.
17. Beth gall ein dal ni’n ôl rhag derbyn anogaeth, a beth gallwn ni ei wneud am yr heriau hyn?
17 Paid â threulio gormod o amser ar dy ben dy hun. Oherwydd emosiynau poenus, efallai na fyddi di eisiau bod gydag eraill. Ar adegau, efallai bydd dy frodyr a dy chwiorydd yn camddeall dy deimladau di, neu’n dweud y peth anghywir. (Iago 3:2) Paid â gadael i heriau o’r fath dy ddal di’n ôl rhag derbyn y gefnogaeth sydd ei angen arnat ti. Mae henuriad o’r enw Gavin, sy’n dioddef o iselder, yn dweud: “Cysylltu â fy ffrindiau yn aml yw’r peth diwethaf dwi’n teimlo fel gwneud.” Er hynny, mae Gavin yn gwneud yr ymdrech, ac o ganlyniad, yn elwa o dreulio amser gydag eraill. Mae chwaer o’r enw Amy yn dweud: “Dwi’n ei ffeindio hi’n anodd iawn i drystio eraill oherwydd fy mhrofiadau yn y gorffennol. Ond, rydw i’n dysgu i garu ac i ymddiried yn fy mrodyr a fy chwiorydd yn union fel y mae Jehofa. Dwi’n gwybod bod hynny’n gwneud Jehofa’n hapus, ac mae’n fy ngwneud i’n hapus hefyd.”
MAE ADDEWIDION JEHOFA AM Y DYFODOL YN EIN CYSURO NI
18. Beth sydd gynnon ni i edrych ymlaen ato, a beth gallwn ni ei wneud yn y cyfamser?
18 Gallwn ni edrych ymlaen at y dyfodol gyda hyder oherwydd yn fuan bydd Jehofa’n cael gwared ar bob peth sy’n achosi poen emosiynol a chorfforol inni. (Dat. 21:3, 4) Ar yr adeg honno, fydd y pethau sydd wedi ein brifo ni “ddim yn croesi’r meddwl.” (Esei. 65:17) Fel rydyn ni wedi ei weld, mae Jehofa’n ‘rhwymo ein briwiau’ hyd yn oed nawr. Cymera fantais ar y pethau mae Jehofa wedi eu darparu’n gariadus i dy helpu di ac i roi cysur i ti. Paid ag amau am funud ei fod yn ‘gofalu amdanat ti.’—1 Pedr 5:7.
CÂN 7 Jehofa, Ein Nerth
a Newidiwyd yr enwau.
b Gweler y blwch “Mae Jehofa’n Dy Drysori Di.”
c Er mwyn gwneud pethau’n iawn rhyngon ni a Jehofa, mae angen inni brofi ein bod ni’n edifar drwy newid ein hymddygiad a gofyn iddo faddau ein pechodau. Os ydyn ni’n pechu’n ddifrifol, mae hefyd angen inni gofyn am help gan henuriaid y gynulleidfa.—Iago 5:14, 15.