ERTHYGL ASTUDIO 10
CÂN 31 Cerdda Gyda Duw!
Efelycha Jehofa ac Iesu yn Dy Ffordd o Feddwl
“Gan fod Crist wedi dioddef yn y cnawd, mae’n rhaid i chithau hefyd eich arfogi eich hunain â’r un agwedd meddwl.”—1 PED. 4:1.
PWRPAS
Sut gwnaeth yr apostol Pedr ddysgu o ffordd Iesu o feddwl a sut gallwn ni wneud hynny hefyd.
1-2. Beth mae caru Jehofa yn ei gynnwys, a sut dangosodd Iesu hynny?
ESBONIODD Iesu beth oedd y gorchymyn mwyaf pwysig yng Nghyfraith Moses pan ddywedodd: “Mae’n rhaid iti garu Jehofa dy Dduw â dy holl galon ac â dy holl enaid ac â dy holl nerth ac â dy holl feddwl.” (Luc 10:27) Felly, rydyn ni’n caru Jehofa gyda phopeth sydd gynnon ni. Mae hyn yn cynnwys ein dymuniadau, ein hemosiynau, ac ein hegni. Mae hefyd yn cynnwys sut rydyn ni’n meddwl. Wrth gwrs, fyddwn ni byth yn gallu deall ffordd Jehofa o feddwl yn gyfan gwbl. Ond fe allwn ni ddeall meddylfryd Duw wrth astudio “meddwl Crist” oherwydd bod Iesu yn adlewyrchu ei dad yn berffaith.—1 Cor. 2:16 a’r nodyn astudio “we do have the mind of Christ.”
2 Roedd Iesu’n caru Jehofa â’i holl feddwl. Roedd yn gwybod beth oedd ewyllys Duw ar ei gyfer ac roedd yn benderfynol o fyw yn unol â hwnnw, er bod hynny wedi golygu y byddai’n rhaid iddo ddioddef o ganlyniad. Wrth ganolbwyntio ar ewyllys ei Dad, ni wnaeth Iesu adael i unrhyw beth dynnu ei sylw oddi ar ei nod.
3. Beth ddysgodd Pedr oddi wrth Iesu, a beth gwnaeth Pedr annog ei gyd-Gristnogion i’w wneud? (1 Pedr 4:1)
3 Roedd Pedr a’i gyd-apostolion wedi cael y fraint o dreulio amser gyda Iesu a dysgu ei ffordd o feddwl. Pan ysgrifennodd Pedr ei lythyr cyntaf, fe anogodd y Cristnogion i arfogi eu hunain gyda’r un agwedd meddwl â Christ. (Darllen 1 Pedr 4:1.) Fe ddefnyddiodd Pedr derm milwrol pan ysgrifennodd: “Arfogi eich hunain.” Felly os ydy Cristnogion yn dysgu i feddwl fel Crist, fe fyddan nhw’n arfogi eu hunain i frwydro yn erbyn yr awydd i wneud pethau drwg ac yn erbyn byd Satan.—2 Cor. 10:3-5; Eff. 6:12.
4. Sut gall yr erthygl hon ein helpu ni i ddilyn cyngor Pedr?
4 Byddwn ni’n ystyried ffordd Iesu o feddwl a gweld sut gallwn ni ei hefelychu. Byddwn ni’n gweld sut gallwn ni (1) efelychu ffordd Jehofa o feddwl, a fydd yn ein helpu ni i feddwl yn gytûn, (2) bod yn ostyngedig, a (3) bod yn ein llawn bwyll trwy ddibynnu ar Jehofa mewn gweddi.
EFELYCHA FFORDD JEHOFA O FEDDWL
5. Sut gwnaeth Pedr fethu efelychu meddylfryd Jehofa?
5 Ystyria un adeg pan wnaeth Pedr fethu efelychu ffordd Jehofa o feddwl. Dywedodd Iesu wrth ei apostolion y byddai’n rhaid iddo fynd i Jerwsalem, cael ei drosglwyddo i’r arweinwyr crefyddol yno, cael ei arteithio, a chael ei roi i farwolaeth. (Math. 16:21) Efallai roedd yn anodd i Pedr dderbyn y byddai Jehofa’n gadael i Iesu, gobaith Israel a’r Meseia addawedig, gael ei ladd. (Math. 16:16) Felly gwnaeth Pedr gymryd Iesu i un ochr a dweud: “Bydda’n garedig wrthot ti dy hun, Arglwydd; ni fydd hyn yn digwydd iti o gwbl.” (Math. 16:22) Doedd Pedr ddim yn adlewyrchu ffordd Jehofa o feddwl ar y mater, nid oedd yn gytûn â Iesu.
6. Sut gwnaeth Iesu ddangos bod ei feddylfryd yn union yr un fath â Jehofa?
6 Roedd meddylfryd Iesu yn union yr un fath â’i Dad nefol. Dywedodd Iesu wrth Pedr: “Dos y tu ôl imi, Satan! Rwyt ti’n garreg rwystr imi, oherwydd dy fod ti’n meddwl, nid meddyliau Duw, ond meddyliau dynion.” (Math. 16:23) Efallai fod gan Pedr gymhellion da, ond gwrthododd Iesu ei gyngor. Nid byw bywyd hunanol oedd bwriad Jehofa ar gyfer Iesu. Ar yr adeg honno, dysgodd Pedr wers bwysig iawn—roedd rhaid iddo gael yr un meddylfryd â Jehofa. Mae hyn yn wers bwysig inni hefyd.
7. Sut dangosodd Pedr yn nes ymlaen ei fod eisiau mabwysiadu meddylfryd Jehofa? (Gweler y llun.)
7 Yn y pen draw, dangosodd Pedr ei fod eisiau bod ar yr un donfedd â ffordd Jehofa o feddwl. Roedd yr amser wedi cyrraedd i bobl y cenhedloedd fod yn rhan o bobl Dduw. Cafodd Pedr ei benodi i bregethu i Cornelius, un o’r rhai cyntaf o bobl y cenhedloedd i ddod yn Gristion. Fel arfer, roedd yr Iddewon yn osgoi pobl y cenhedloedd, felly does dim syndod bod Pedr wedi gorfod cael help i baratoi ar gyfer ei aseiniad. Unwaith i Pedr ddeall beth oedd ewyllys Duw, fe newidiodd ei safbwynt. O ganlyniad, fe aeth “heb unrhyw wrthwynebiad” pan gafodd ei alw amdano. (Act. 10:28, 29) Fe bregethodd i Cornelius a phawb yn ei dŷ, a chawson nhw eu bedyddio.—Act. 10:21-23, 34, 35, 44-48.
Pedr yn mynd i mewn i dŷ Cornelius (Gweler paragraff 7)
8. Sut gallwn ni ddangos ein bod ein meddyliau ni’n cytuno â meddyliau Jehofa? (1 Pedr 3:8 a’r troednodyn)
8 Flynyddoedd yn ddiweddarach, fe wnaeth Pedr annog ei gyd-Gristnogion i “feddwl yn gytûn.” (Darllen 1 Pedr 3:8 a’r troednodyn.) Fel pobl Jehofa, gallwn ni feddwl yn gytûn drwy efelychu ffordd Jehofa o feddwl fel sy’n cael ei ddatgelu inni yn ei Air. Er enghraifft, fe wnaeth Iesu annog ei ddilynwyr i flaenoriaethu’r Deyrnas yn eu bywydau. (Math. 6:33) Gyda hynny mewn cof, efallai bydd cyhoeddwr yn dy gynulleidfa yn penderfynu dechrau arloesi neu wasanaethu Jehofa’n llawn amser mewn ffordd arall. Yn hytrach na dweud wrtho i fod yn garedig wrtho’i hun, dylen ni siarad yn bositif am ei nod a chynnig i’w helpu.
BYDDA’N OSTYNGEDIG
9-10. Sut dangosodd Iesu ostyngeiddrwydd rhyfeddol?
9 Ar y noson cyn iddo gael ei roi i farwolaeth, dysgodd Iesu wers bwysig am ostyngeiddrwydd i Pedr a’r apostolion eraill. Yn gynharach, roedd Iesu wedi anfon Pedr ac Ioan i baratoi pethau ar gyfer y swper olaf byddai Iesu’n ei fwyta cyn iddo gael ei ladd. Mae’n debyg bod hyn wedi cynnwys gwneud yn siŵr bod ’na fowlen a thywelion ar gael er mwyn golchi traed y gwesteion cyn iddyn nhw fwyta. Ond pwy fyddai’n ddigon gostyngedig i wneud y gwaith hwn?
10 Heb oedi dim, dangosodd Iesu ostyngeiddrwydd rhyfeddol. Er mawr syndod i’r apostolion, fe wnaeth rywbeth y byddai gwas fel arfer yn ei wneud. Tynnodd Iesu ei gôt, clymu tywel am ei ganol, rhoi dŵr i mewn i’r bowlen, a dechrau golchi eu traed. (Ioan 13:4, 5) Efallai fe fyddai wedi cymryd peth amser i olchi traed y 12 apostol—gan gynnwys Jwdas, a oedd am ei fradychu. Ond fe wnaeth Iesu gwblhau’r gwaith yn ostyngedig. Yna, esboniodd yn amyneddgar: “Ydych chi’n deall beth rydw i wedi ei wneud ichi? Rydych chi’n fy ngalw i’n ‘Athro’ ac yn ‘Arglwydd,’ ac rydych chi’n gywir, oherwydd dyna beth ydw i. Felly, os gwnes i, yr Arglwydd a’r Athro, olchi eich traed chi, dylech chithau hefyd olchi traed eich gilydd.”—Ioan 13:12-14.
Cofia fod gwir ostyngeiddrwydd . . . yn cynnwys y ffordd rydyn ni’n meddwl amdanon ni’n hunain ac eraill
11. Sut dangosodd Pedr ei fod wedi dysgu i fod yn ostyngedig? (1 Pedr 5:5) (Gweler hefyd y llun.)
11 Gwnaeth gostyngeiddrwydd Iesu ddysgu gwers i Pedr. Ar ôl i Iesu fynd yn ôl i’r nefoedd, cyflawnodd Pedr wyrth drwy iacháu dyn a oedd wedi bod yn gloff o’i enedigaeth. (Act. 1:8, 9; 3:2, 6-8) Wrth gwrs, fe wnaeth y digwyddiad rhyfeddol hwn ddenu sylw llawer o bobl. (Act. 3:11) Sut byddai Pedr yn teimlo am yr holl sylw? A fyddai’n ymhyfrydu ynddo, gan ei fod wedi dod o gefndir lle roedd statws yn bwysig iawn? Na fyddai. Rhoddodd Pedr y clod i gyd i Jehofa ac i Iesu, gan ddweud: ‘Trwy enw Iesu, a thrwy ein ffydd yn ei enw, mae’r dyn hwn rydych chi’n ei weld ac yn ei adnabod wedi cael ei wneud yn gryf.’ (Act. 3:12-16) Efallai fod geiriau Pedr am ostyngeiddrwydd yn un o’i lythyrau yn ein hatgoffa ni o’r adeg pan wnaeth Iesu lapio’r tywel am ei ganol a golchi traed ei apostolion.—Darllen 1 Pedr 5:5.
Ar ôl i Pedr gyflawni gwyrth, fe roddodd y clod i Jehofa ac i Iesu yn ostyngedig. Gallwn ninnau hefyd ddangos gostyngeiddrwydd drwy wneud da heb ddisgwyl cael ein clodfori na’n gwobrwyo (Gweler paragraffau 11-12)
12. Sut gallwn ni ddilyn esiampl Pedr a dysgu i fod yn ostyngedig?
12 Gallwn ni ddilyn esiampl Pedr drwy feithrin gostyngeiddrwydd. Cofia fod gwir ostyngeiddrwydd yn golygu mwy na dweud y pethau iawn. Mae’r term a ddefnyddiodd Pedr am ostyngeiddrwydd yn dangos ei fod yn cynnwys y ffordd rydyn ni’n meddwl amdanon ni’n hunain ac eraill. Rydyn ni’n gwneud pethau ar gyfer eraill oherwydd ein cariad at Jehofa ac at bobl, nid oherwydd ein bod ni eisiau i eraill feddwl yn fawr ohonon ni. Os ydyn ni’n gwneud beth bynnag y gallwn ni i wasanaethu Jehofa ac eraill yn llawen, heb boeni os ydy eraill yn sylwi ar ein hymdrechion, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n ostyngedig.—Math. 6:1-4.
“BYDDWCH YN EICH LLAWN BWYLL”
13. Esbonia beth mae’n ei olygu i fod yn ein “llawn bwyll.”
13 Beth mae’n ei olygu i ‘fod yn ein llawn bwyll’? (1 Pedr 4:7) Mae Cristion sydd yn ei lawn bwyll yn gwneud ei orau i wneud penderfyniadau da sy’n efelychu meddylfryd Jehofa. Mae person o’r fath yn gwybod does ’na ddim byd yn bwysicach na’i berthynas â Jehofa. Nid yw’n meddwl gormod ohono’i hun ac mae’n cydnabod nad oes ganddo’r atebion i gyd. Mae’n dangos ei fod yn dibynnu ar Dduw drwy weddïo arno yn aml ac yn ostyngedig.a
14. Sut gwnaeth Pedr fethu dibynnu ar Jehofa ar un achlysur?
14 Ar y noson olaf cyn i Iesu farw, fe roddodd rybudd i’w ddisgyblion: “Byddwch chi i gyd yn cael eich baglu mewn cysylltiad â mi heno.” Ymatebodd Pedr yn hyderus: “Er i’r lleill i gyd gael eu baglu mewn cysylltiad â ti, fydda i byth yn cael fy maglu!” Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion y noson honno: “Cadwch yn effro a gweddïwch yn barhaol.” (Math. 26:31, 33, 41) Petai Pedr wedi dilyn y cyngor hwnnw, efallai fe fyddai wedi cael y dewrder i ddweud ei fod yn un o ddisgyblion Iesu. Ond yn lle hynny fe wnaeth Pedr wadu ei Feistr ac yna difaru ei benderfyniad yn llwyr.—Math. 26:69-75.
15. Sut parhaodd Iesu i fod yn ei lawn bwyll yn ystod ei noson olaf cyn cael ei ladd?
15 Roedd Iesu’n dibynnu’n llwyr ar Jehofa. Er ei fod yn berffaith, gweddïodd Iesu dro ar ôl tro. Dyna a roddodd iddo’r dewrder i wneud beth roedd Jehofa eisiau iddo ei wneud. (Math. 26:39, 42, 44; Ioan 18:4, 5) Mae’n rhaid bod yr atgofion o weld Iesu yn gweddïo cymaint ar ei noson olaf wedi aros gyda Pedr am weddill ei fywyd.
16. Beth sy’n dangos bod Pedr wedi dysgu sut i fod yn ei lawn bwyll? (1 Pedr 4:7)
16 Mewn amser, dechreuodd Pedr ddibynnu’n fwy ar Jehofa mewn gweddi. Ar ôl i Iesu gael ei atgyfodi, fe ddywedodd wrth Pedr a’r apostolion eraill y bydden nhw’n derbyn ysbryd glân er mwyn iddyn nhw gyflawni eu comisiwn i bregethu. Ond, gofynnodd Iesu am iddyn nhw aros yn Jerwsalem nes i hynny ddigwydd. (Luc 24:49; Act. 1:4, 5) Beth a wnaeth Pedr wrth ddisgwyl? Roedd Pedr a’i gyd-Gristnogion “yn dyfalbarhau mewn gweddi.” (Act. 1:13, 14) Yn nes ymlaen, yn ei lythyr cyntaf, rhoddodd Pedr anogaeth i’w gyd-Gristnogion i fod yn eu llawn bwyll ac i ddibynnu ar Jehofa mewn gweddi. (Darllen 1 Pedr 4:7.) Fe ddysgodd Pedr i ddibynnu’n llwyr ar Jehofa ac fe ddaeth yn un o bileri’r gynulleidfa.—Gal. 2:9.
17. Beth mae’n rhaid inni ddal ati i’w wneud, ni waeth pa dalentau sydd gynnon ni? (Gweler hefyd y llun.)
17 Er mwyn bod yn ein llawn bwyll, mae’n rhaid inni weddïo ar Jehofa yn aml. Rydyn ni’n cydnabod bod rhaid inni weddïo arno dim ots pa dalentau sydd gynnon ni. Felly, yn enwedig pan mae’n rhaid inni wneud penderfyniadau mawr, rydyn ni’n gweddïo ar Jehofa am ei arweiniad, yn sicr ei fod yn gwybod beth sydd orau inni.
Dysgodd Pedr i ddibynnu ar Jehofa mewn gweddi. Gallwn ninnau hefyd fod yn ein llawn bwyll drwy weddïo ar Jehofa am help, yn enwedig pan mae’n rhaid inni wneud penderfyniad pwysig (Gweler paragraff 17)b
18. Sut gallwn ni ddysgu bod ar yr un donfedd â meddylfryd Jehofa?
18 Rydyn ni mor ddiolchgar ein bod ni wedi cael ein creu fel ein bod ni’n gallu efelychu rhinweddau Jehofa. (Gen. 1:26) Wrth gwrs, dydyn ni ddim yn gallu ei efelychu yn berffaith. (Esei. 55:9) Ond, fel Pedr, gallwn ni ddysgu i fod ar yr un donfedd â meddylfryd Jehofa. Gallwn ni wneud hyn drwy barhau i efelychu meddyliau Jehofa, drwy fod yn ostyngedig, a thrwy fod yn ein llawn bwyll.
CÂN 30 Fy Nhad, Fy Nuw a’m Ffrind
a Am fwy o wybodaeth ar beth mae’n ei olygu i fod yn ein llawn bwyll, neu i fod yn iach yn ysbrydol, gweler yr erthygl Saesneg “Bible Verses Explained” “2 Timothy 1:7 Explained—‘God Has Not Given Us a Spirit of Fear,’” o dan “Soundness of mind” ar jw.org neu yn yr ap JW Library®.
b DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae chwaer yn gweddïo’n ddistaw cyn iddi fynd i mewn i gyfweliad am swydd.