ERTHYGL ASTUDIO 50
CÂN 48 Cerdded Gyda Jehofa Bob Dydd
Efelycha Ostyngeiddrwydd Jehofa
“Byddwch yn efelychwyr Duw, fel plant annwyl.”—EFF. 5:1.
PWRPAS
Dysgu pedair ffordd ymarferol y gallwn ni efelychu gostyngeiddrwydd Jehofa.
1. Pam mae gostyngeiddrwydd Jehofa’n rhyfeddol?
PAN weli di bobl bwysig heddiw, dydy’r gair gostyngedig ddim yn dod i’r meddwl yn aml. Ond mae Jehofa, sydd yn hollalluog, yn ostyngedig. (Salm 113:5-8) Mae gostyngeiddrwydd yn rhan annatod o’i natur; does dim mymryn o falchder ynddo. Byddwn ni’n elwa o ystyried pedair agwedd ar bersonoliaeth hyfryd Jehofa a gweld sut mae gostyngeiddrwydd yn rhan o bob un. Byddwn ni hefyd yn ystyried sut roedd Iesu’n efelychu gostyngeiddrwydd ei Dad. Bydd hyn yn ein helpu ni i nesáu at Jehofa ac i efelychu ei ostyngeiddrwydd yn well.
MAE JEHOFA YN AWYDDUS INNI DROI ATO
2. Beth mae Salm 62:8 yn ei ddangos am Jehofa? (Gweler hefyd y llun.)
2 Fel arfer, dydy hi ddim yn hawdd siarad â phobl falch. Mae eu hunan-bwysigrwydd yn ei gwneud hi’n anodd i eraill fynd atyn nhw, a bydd rhai’n eu hosgoi nhw’n gyfan gwbl. Ond mae Jehofa’n hollol wahanol! Mae ein Tad nefol yn ostyngedig ac felly mae’n gofyn inni siarad ag ef am bopeth sy’n pwyso ar ein meddyliau. (Darllen Salm 62:8.) Fel y mae tad yn hapus i wrando ar ei blant yn sôn am eu pryderon, mae Jehofa’n croesawu ein gweddïau. Yn wir, sicrhaodd Jehofa fod llawer o’r gweddïau hyn wedi cael eu cofnodi yn y Beibl. Mae hynny’n dangos ei fod yn awyddus inni droi ato. (Jos. 10:12-14; 1 Sam. 1:10-18) Ond beth os ydyn ni’n teimlo nad ydyn ni’n haeddu cariad a sylw Jehofa?
Gan efelychu Jehofa, mae tad yn gwrando yn ostyngedig ar ei fab, sydd wedi torri fâs blodau wrth chwarae (Gweler paragraff 2)
3. Pam gelli di fod yn sicr bod Jehofa yn dymuno iti weddïo arno’n rheolaidd?
3 Gallwn ni weddïo ar Jehofa hyd yn oed os nad ydyn ni’n teimlo’n deilwng o’i gariad. Pam gallwn ni ddweud hynny? Fe wnaeth Iesu gymharu Jehofa â thad cariadus yn nameg y mab colledig. Er bod y mab yn edifar, roedd yn teimlo na fyddai ei deulu’n ei groesawu yn ôl. Beth oedd ymateb y tad pan ddaeth ei fab yn ôl adref? Dywedodd Iesu fod y tad, cyn gynted ag y gwelodd ei fab, wedi “rhedeg ato ac yn ei gofleidio ac yn ei gusanu’n dyner.” (Luc 15:17-20) Mae Jehofa’n debyg i’r tad hwnnw. Gan ei fod yn ostyngedig, cyn gynted ag y mae’n clywed gweddïau’r rhai sy’n torri eu calonnau oherwydd pwysau euogrwydd neu bryder, mae’n gwrando’n ofalus. (Galar. 3:55-57) Mae Jehofa’n teimlo trugaredd, ac felly mae’n rhedeg atyn nhw, fel petai, i’w cysuro ac i ddangos ei gariad a’i dosturi. (Esei. 57:15) Sut mae Jehofa’n “rhedeg aton ni” heddiw? Yn aml y mae’n gwneud hynny drwy’r henuriaid, drwy aelodau’r teulu sy’n addoli Jehofa, a thrwy ein brodyr a’n chwiorydd. (Iago 5:14, 15) Mae Jehofa’n gwneud hyn oherwydd mae’n dymuno inni fod yn agos ato.
4. Pam roedd hi’n hawdd i bobl siarad â Iesu?
4 Mae Iesu’n efelychu ei Dad. Fel ei Dad, mae Iesu’n ostyngedig. Dyna pam roedd pobl yn hapus i fynd ato. Roedden nhw’n teimlo’n gyfforddus yn gofyn cwestiynau iddo. (Marc 4:10, 11) Felly pan oedd Iesu’n gofyn am eu sylwadau, roedden nhw’n mynegi eu gwir deimladau. (Math. 16:13-16) A phan oedden nhw’n gwneud camgymeriadau, doedden nhw ddim yn crynu mewn ofn; roedden nhw’n gwybod bod Iesu’n garedig, yn drugarog, ac yn amyneddgar. (Math. 17:24-27) Oherwydd bod Iesu wedi efelychu ei Dad mor dda, roedd y disgyblion yn dod i adnabod Jehofa’n well. (Ioan 14:9) Roedden nhw’n dysgu bod Jehofa’n hollol wahanol i arweinwyr crefyddol y dydd, a oedd yn galed, yn falch, ac yn ffroenuchel. Yn wahanol i hynny, roedd Jehofa’n ostyngedig ac yn hawdd mynd ato.
5. Pam bydd hi’n haws i eraill droi aton ni os ydyn ni’n ostyngedig?
5 Sut gallwn ni efelychu Jehofa? Os ydyn ni’n meithrin gostyngeiddrwydd, bydd hi’n haws i eraill siarad â ni. Bydd gostyngeiddrwydd yn ein hatal ni rhag bod yn genfigennus, yn falch, ac yn anfaddeugar—rhinweddau drwg sy’n gyrru eraill i ffwrdd. Bydd gostyngeiddrwydd yn ein helpu ni i fod yn garedig, yn amyneddgar, ac yn faddeugar—rhinweddau da sy’n denu eraill aton ni. (Col. 3:12-14) Mae’n rhaid i henuriaid sicrhau bod eraill yn teimlo’n ddigon cyfforddus i fynd atyn nhw. Wrth gwrs mae hynny’n gofyn i’r henuriaid fod ar gael. Mae hyn yn golygu eu bod nhw’n gwneud ymdrech i fod yn bresennol yn y cyfarfodydd yn hytrach na mynychu dros fideo-gynadledda yn ddiangen. Ac yn ôl eu hamgylchiadau, byddan nhw’n ceisio pregethu o dŷ i dŷ gyda’r brodyr a’r chwiorydd. Wrth i’r gynulleidfa ddod i adnabod yr henuriaid yn well, byddan nhw’n ei chael hi’n haws troi atyn nhw am help pan fydd angen.
MAE JEHOFA YN RHESYMOL
6-7. Rho enghreifftiau sy’n dangos sut mae Jehofa wedi ildio i erfyniadau ei weision.
6 Mae llawer o bobl falch yn afresymol yn y ffordd maen nhw’n trin eraill. Ond oherwydd bod Jehofa’n ostyngedig, y mae’n rhesymol, neu’n barod i ildio, er ei fod yn uwch na phawb ym mhob ffordd. Ystyria sut deliodd Jehofa â Miriam, chwaer Moses. Cwynodd hi a’i brawd Aaron am Moses, ond roedd Moses yn cynrychioli Jehofa. Felly mewn gwirionedd, roedd Miriam yn dangos diffyg parch at Jehofa. O ganlyniad, roedd Jehofa yn ddig a chafodd Miriam ei tharo â’r gwahanglwyf. Ond pan erfyniodd Aaron dros ei chwaer a gofynnodd Moses yn daer i Jehofa ei hiacháu, beth oedd ymateb Duw? Byddai rhywun balch wedi gwrthod newid y ddedfryd. Ond gan fod Jehofa’n ostyngedig, roedd yn barod i ildio ac i iacháu Miriam.—Num. 12:1-15.
7 Dangosodd Jehofa ostyngeiddrwydd yn y ffordd roedd yn gwrando ar y Brenin Heseceia hefyd. Anfonodd Jehofa Ei broffwyd at y brenin i ddweud wrtho ei fod yn mynd i farw. Yn ei ddagrau, gofynnodd Heseceia yn daer i Jehofa ei iacháu. Gwrandawodd Jehofa ac ychwanegodd 15 mlynedd at ei fywyd. (2 Bren. 20:1, 5, 6) Yn sicr, mae gostyngeiddrwydd Jehofa yn gwneud iddo fod yn drugarog ac yn barod i ildio.
8. Pa enghreifftiau sy’n dangos bod Iesu’n rhesymol? (Marc 3:1-6)
8 Mae Iesu’n efelychu ei Dad. Pan oedd Iesu ar y ddaear, roedd yn barod i helpu eraill bryd bynnag roedd hynny’n bosib. Er enghraifft, er bod ei wrthwynebwyr yn ei feirniadu, roedd yn iacháu pobl ar y Saboth. (Darllen Marc 3:1-6.) Fel pen y gynulleidfa Gristnogol, mae Iesu’n dal i fod yn rhesymol. Er enghraifft, pan fydd rhywun yn y gynulleidfa’n pechu’n ddifrifol, mae Iesu’n amyneddgar, ac mae’n rhoi digon o gyfle iddo newid ei ffyrdd.—Dat. 2:2-5.
9. Sut gallwn ni feddwl ac ymddwyn mewn ffordd resymol? (Gweler hefyd y lluniau.)
9 Sut gallwn ni efelychu Jehofa? Yn ostyngedig, mae’n rhaid inni feithrin ffordd resymol Jehofa o feddwl ac o ymddwyn. (Iago 3:17) Er enghraifft, dydy rhieni rhesymol ddim yn caniatáu pob dim, ond dydyn nhw ddim yn disgwyl gormod gan eu plant. Mae hanes Jacob, yn Genesis 33:12-14, yn enghraifft dda o hyn. Dydy rhieni gostyngedig a rhesymol ddim yn annheg gan gymharu un plentyn â phlentyn arall. Mae’n rhaid i henuriaid hefyd fod yn rhesymol. Un ffordd iddyn nhw wneud hyn ydy drwy ildio i benderfyniad y mwyafrif ar y corff, pan na fydd hynny’n groes i egwyddorion y Beibl. (1 Tim. 3:2, 3) Ac rydyn ni i gyd yn gallu ceisio deall safbwynt pobl eraill hyd yn oed os ydyn ni’n gweld pethau’n wahanol. (Rhuf. 14:1) Dylai pob un yn y gynulleidfa geisio ‘gadael i bawb weld ei fod yn rhesymol.’—Phil. 4:5.
Dylai tad fod yn rhesymol yn yr hyn mae’n ei ddisgwyl gan ei blant yn y weinidogaeth (Gweler paragraff 9)
MAE JEHOFA YN AMYNEDDGAR
10. Ym mha ffyrdd mae Jehofa wedi dangos amynedd?
10 Mae’n debyg dy fod ti wedi sylwi bod pobl falch yn dueddol o fod yn ddiamynedd pan fydd eraill yn gwneud iddyn nhw oedi. Mae hynny mor wahanol i Jehofa, yr esiampl orau oll o ran amynedd! Er enghraifft, yn amser Noa, dywedodd Jehofa y byddai’n aros am 120 o flynyddoedd cyn dinistrio’r bobl ddrwg. (Gen. 6:3) Roedd gan Noa amser i fagu ei blant ac i adeiladu’r arch gyda help ei deulu. Yn nes ymlaen, gwrandawodd Jehofa’n amyneddgar wrth i Abraham ei holi am ei fwriad i ddinistrio Sodom a Gomorra. Byddai rhywun balch wedi dweud, ‘Paid ti â meiddio fy nghwestiynu i!’ Ond roedd Jehofa yn amyneddgar gydag Abraham.—Gen. 18:20-33.
11. Fel mae 2 Pedr 3:9 yn esbonio, pam mae Jehofa yn dangos amynedd heddiw?
11 Mae Jehofa’n dangos ei fod yn amyneddgar heddiw hefyd. Mae’n aros am yr amser y mae wedi ei benodi i ddod â diwedd ar y system hon. Pam mae Jehofa mor amyneddgar? “Oherwydd nad yw’n dymuno i unrhyw un gael ei ddinistrio ond mae’n dymuno i bawb gael cyfle i edifarhau.” (Darllen 2 Pedr 3:9.) Ydy amynedd Jehofa wedi mynd yn ofer? Dim o gwbl! Mae miliynau o bobl wedi nesáu ato. Ac rydyn ni’n gobeithio y bydd miliynau o bobl eraill yn gwneud yr un fath. Serch hynny, mae ’na derfyn ar amynedd Jehofa. Mae’n caru pobl, ond ni fydd yn caniatáu i bobl ddrwg wneud beth bynnag maen nhw’n ei ddymuno am byth. Mae’n mynd i roi terfyn ar ddrygioni.—Hab. 2:3.
12. Sut mae Iesu’n efelychu amynedd Jehofa?
12 Mae Iesu’n efelychu ei Dad. Am filoedd o flynyddoedd, mae Iesu wedi efelychu amynedd Jehofa. Y mae wedi gweld Satan yn pardduo enw da Jehofa a’i weision ffyddlon. (Gen. 3:4, 5; Job 1:11; Dat. 12:10) Mae Iesu hefyd wedi gweld dioddefaint ofnadwy. Dychmyga faint y mae’n dyheu am ei gyfle i “dorri gweithredoedd y Diafol yn ddarnau”! (1 Ioan 3:8) Beth sy’n helpu Iesu i aros yn amyneddgar am ganiatâd gan Jehofa i ddinistrio gweithredoedd y Diafol yn llwyr? Un rheswm ydy ei ostyngeiddrwydd. Mae’n gwybod mai Jehofa sydd biau’r hawl i benderfynu pryd i ddod â’r diwedd.—Act. 1:7.
13. Sut a pham roedd Iesu’n amyneddgar gyda’i apostolion?
13 Roedd Iesu hefyd yn amyneddgar gyda’i apostolion. Er enghraifft, pan oedd yr apostolion yn dadlau dro ar ôl tro am bwy oedd y pwysicaf, arhosodd Iesu’n amyneddgar yn lle cael llond bol â nhw. (Luc 9:46; 22:24-27) Roedd yn hyderus y bydden nhw’n newid ymhen amser. Wyt ti wedi gwneud yr un camgymeriad drosodd a throsodd? Os felly, mae’n debyg dy fod ti’n ddiolchgar bod Iesu’n Frenin gostyngedig ac amyneddgar.
14. Sut gallwn ni feithrin amynedd?
14 Sut gallwn ni efelychu Jehofa? Drwy feithrin “meddwl Crist” byddwn ni’n dod yn fwy tebyg i Jehofa yn y ffordd rydyn ni’n meddwl ac yn ymddwyn. (1 Cor. 2:16) Sut gallwn ni ddeall meddwl Crist yn well? Does dim ffordd sydyn o’i wneud. Mae’n rhaid inni ddarllen yr Efengylau. Yna mae angen meddwl yn ddwfn am sut mae’r testun yn dangos meddylfryd Iesu. Ac wrth gwrs, mae’n rhaid inni ofyn i Jehofa am help i efelychu meddylfryd gostyngedig Iesu. Wrth inni feithrin meddwl Crist, byddwn ni’n dod yn fwy tebyg i Dduw, ac yn gallu bod yn fwy amyneddgar gyda ni’n hunain a gyda phobl eraill.—Math. 18:26-30, 35.
MAE JEHOFA YN RHOI URDDAS I BOBL OSTYNGEDIG
15. Sut mae Jehofa wedi dangos bod y disgrifiad ohono yn Salm 138:6 yn gywir?
15 Darllen Salm 138:6. Mae’n fraint i bobl ostyngedig gael eu cydnabod gan Sofran y bydysawd! Ystyria rai o’r bobl ostyngedig sydd wedi cael eu trin yn urddasol gan Jehofa dros y canrifoedd. Efallai na fydd eu henwau yn dod i’r meddwl yn syth, ond maen nhw wedi eu cynnwys yn y Beibl. Cafodd Moses ei ysbrydoli gan Jehofa i gofnodi enw nyrs o’r enw Debora, a oedd yn byw yn amser y patriarchiaid. Roedd hi’n gwasanaethu teulu Isaac a Jacob yn ffyddlon am tua 125 o flynyddoedd! Er nad ydyn ni’n gwybod llawer am y ddynes ffyddlon hon, roedd Jehofa yn sicrhau bod Moses yn cofnodi manylyn yn y Beibl sy’n dangos pa mor annwyl oedd hi. (Gen. 24:59; 35:8, tdn) Ganrifoedd wedyn, dewisodd Jehofa fugail ifanc, Dafydd, i fod yn frenin ar genedl Israel. (2 Sam. 22:1, 36) Yn fuan ar ôl i Iesu gael ei eni, anfonodd Duw angylion at grŵp o fugeiliaid gostyngedig. Cawson nhw’r anrhydedd o fod y rhai cyntaf i glywed bod y Meseia wedi cael ei eni ym Methlehem gerllaw. (Luc 2:8-11) Pan ddaeth Joseff a Mair â Iesu i’r deml, gwnaeth Jehofa roi urddas i Simeon ac Anna drwy adael iddyn nhw weld Ei Fab. (Luc 2:25-30, 36-38) Yn sicr, “er bod yr ARGLWYDD mor fawr, mae’n gofalu am y gwylaidd”!
16. Sut roedd Iesu’n efelychu ffordd ei Dad o drin eraill?
16 Mae Iesu’n efelychu ei Dad. Fel ei Dad, roedd Iesu’n trin pobl ostyngedig ag urddas. Roedd yn dysgu gwirioneddau am Deyrnas Dduw i bobl ‘ddiaddysg a chyffredin.’ (Act. 4:13; Math. 11:25) Pan oedd Iesu’n iacháu’r sâl, roedd yn eu trin nhw mewn ffordd a oedd yn adfer eu hurddas yn ogystal â’u hiechyd. (Luc 5:13) Y noson cyn iddo farw, fe wnaeth Iesu olchi traed ei apostolion, tasg y byddai gwas yn ei wneud fel arfer. (Ioan 13:5) Cyn iddo fynd yn ôl i’r nef, fe anrhydeddodd bob un o’i ddilynwyr gostyngedig, gan gynnwys ninnau heddiw, drwy roi iddyn nhw’r gwaith pwysicaf y gall unrhyw un ei wneud, sef helpu eraill i gael bywyd tragwyddol.—Math. 28:19, 20.
17. Sut gallwn ni roi urddas i bobl eraill? (Gweler hefyd y llun.)
17 Sut gallwn ni efelychu Jehofa? Rydyn ni’n rhoi urddas i bobl drwy rannu’r newyddion da gyda phawb sy’n fodlon gwrando, ni waeth eu cefndir, eu haddysg, na lliw eu croen. Ac rydyn ni’n rhoi urddas i’n brodyr a’n chwiorydd drwy eu hystyried yn uwch na ni, ni waeth faint o sgiliau neu freintiau sydd gynnon ni. (Phil. 2:3) Mae Jehofa’n hapus pan fyddwn ni’n “awyddus i anrhydeddu” ein gilydd ym mhob ffordd.—Rhuf. 12:10; Seff. 3:12, BCND.
Rydyn ni’n efelychu gostyngeiddrwydd Jehofa drwy rannu’r newyddion da gyda phobl o bob math (Gweler paragraff 17)a
18. Pam rwyt ti eisiau efelychu gostyngeiddrwydd Jehofa?
18 Wrth inni weithio’n galed i efelychu gostyngeiddrwydd ein Tad nefol, byddwn ni’n fwy rhesymol ac yn fwy amyneddgar, a bydd eraill yn teimlo’n gyfforddus i droi aton ni. Byddwn ni’n rhoi urddas i eraill, fel y mae Jehofa’n ei wneud. Bydd ein hymdrechion i fod yn agosach at ein Duw gostyngedig yn ein gwneud ni’n fwy gwerthfawr byth yn ei olwg!—Esei. 43:4.
CÂN 159 Anrhydeddwch Jehofa
a DISGRIFIAD O’R LLUN: Chwiorydd yn efelychu Jehofa yn ostyngedig wrth iddyn nhw bregethu i bobl yn y carchar.