Rai Hŷn—Rydych Chi’n Werthfawr i’r Gynulleidfa
“Wrth edrych yn ôl, dw i’n synnu ar yr hyn o’n i’n gallu ei wneud ar un adeg. Nawr, mae henaint wedi gwneud imi arafu.”—Connie, 83 mlwydd oed.
Efallai dy fod ti hefyd wedi gorfod arafu oherwydd effeithiau henaint. Er dy fod ti wedi gwasanaethu Jehofa’n ffyddlon ers blynyddoedd, mae’n bosib iti deimlo’n ddigalon oherwydd nad wyt ti’n gallu gwneud gymaint ag yr oeddet ti o’r blaen. Os dyna ydy dy sefyllfa di, beth all dy helpu di i fod yn llawen?
BETH MAE JEHOFA’N EI DDISGWYL GEN TI
Gofynna i ti dy hun, ‘Beth mae Jehofa’n ei ddisgwyl gen i?’ Gelli di gael cysur o eiriau Deuteronomium 6:5, sy’n dweud: “Rwyt i garu’r ARGLWYDD dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid ac â’th holl nerth.”
Yn ôl yr adnod honno, mae Jehofa’n disgwyl iti ei addoli â dy holl galon, enaid, a nerth. Gall cofio hynny dy helpu di i beidio â chymharu dy hun ag eraill—neu gymharu’r hyn rwyt ti’n gallu ei wneud heddiw â’r hyn roeddet ti’n gallu ei wneud yn y gorffennol.
Ystyria hyn: Pan oeddet ti’n ifanc, beth roeddet ti’n ei roi i Jehofa? Byddai’r mwyafrif o bobl Jehofa yn dweud eu bod wedi rhoi eu gorau iddo. Yn dy achos di, dyna’r gorau roeddet ti’n gallu ei roi yn ôl dy amgylchiadau ar y pryd. Beth rwyt ti’n gallu ei roi i Jehofa nawr? Mae’n debyg dy fod ti’n rhoi dy orau yn ôl dy amgylchiadau heddiw, yr hyn rwyt ti’n gallu ei wneud ar hyn o bryd. Os wyt ti’n gweld pethau o’r safbwynt hwnnw, gelli di ddod i’r casgliad dy fod ti’n wir yn gwneud dy orau glas heddiw i Jehofa, yn union fel roeddet ti yn y gorffennol.
Roeddet ti’n rhoi dy orau i Jehofa pan oeddet ti’n ifanc, ac rwyt ti’n gwneud dy orau yn dy henaint
GELLI DI FOD YN HELP MAWR I ERAILL
Dyma rywbeth arall i feddwl amdano: Yn hytrach nag ystyried dy oedran yn rhwystr, gelli di ei ystyried yn gyfle. Yn wir, fel Cristion hŷn, mae ’na rai pethau gelli di eu gwneud nawr nad oeddet ti’n gallu eu gwneud pan oeddet ti’n ifanc. Er enghraifft:
Rhanna dy brofiadau ag eraill. Ystyria’r adnodau canlynol:
Y Brenin Dafydd: “Roeddwn i’n ifanc ar un adeg, ond bellach dw i mewn oed. Dw i erioed wedi gweld rhywun sy’n byw yn iawn yn cael ei siomi gan Dduw, na’i blant yn gorfod chwilio am fwyd.”—Salm 37:25.
Josua: “Nawr edrychwch! Rydw i ar fin marw, ac rydych chi’n gwybod yn iawn â’ch holl galon ac â’ch holl enaid nad oes yr un gair allan o’r holl addewidion da mae Jehofa eich Duw wedi eu gwneud ichi wedi methu. Maen nhw i gyd wedi dod yn wir ichi. Does ’na’r un gair ohonyn nhw wedi methu.”—Jos. 23:14.
Efallai dy fod ti wedi dweud pethau tebyg. Roedd Dafydd a Josua yn siarad o’u profiad personol. Roedd eu geiriau’n fwy pwerus oherwydd eu bod nhw’n mynegi’r hyn roedden nhw wedi ei weld a’i glywed dros ddegawdau o wasanaeth ffyddlon.
Os wyt ti wedi bod yn gwasanaethu Jehofa am amser hir, gelli di siarad o brofiad am y bendithion o wneud hynny. A oes gen ti atgofion melys o weld Jehofa’n helpu ei weision mewn ffordd arbennig? Os felly, rhanna nhw ag eraill! Gall gwneud hynny fod yn adfywiol, fel mae’n debyg dy fod ti wedi gweld. Pan fydd eraill yn clywed dy brofiadau am wasanaethu Jehofa, gelli di eu calonogi nhw’n fawr iawn.—Rhuf. 1:11, 12.
Ffordd arall i galonogi eraill yw mynychu’r cyfarfodydd mewn person gymaint ag y gelli di. Bydd hynny o les i dy gyd-addolwyr ac i ti dy hun. Mae Connie, a gafodd ei dyfynnu ynghynt, yn dweud: “Mae mynychu’r cyfarfodydd yn fy helpu i i beidio â digalonni. O ystyried yr holl gariad rydw i’n ei deimlo yn y Neuadd, alla i ddim teimlo’n drist. Dw i’n ceisio rhoi anrhegion bach i eraill er mwyn dangos pa mor ddiolchgar ydw i. Ar ben hynny dw i’n gwneud yn siŵr fy mod i’n dal i gymryd rhan mewn gweithgareddau ysbrydol gyda fy mrodyr a fy chwiorydd.”
MAE JEHOFA’N TRYSORI DY WASANAETH FFYDDLON
Mae’r Ysgrythurau’n llawn enghreifftiau o bobl a oedd mewn sefyllfaoedd cyfyngedig ond roedd Jehofa’n eu caru nhw. Ystyria Simeon, Israeliad hŷn a oedd yn byw pan gafodd Iesu ei eni. Pan oedd Simeon yn mynd i’r deml, mae’n debyg ei fod wedi gweld dynion ifanc yn gofalu am y gwaith pwysig yno. Ond beth am Simeon ei hun? O safbwynt dynol, mae’n bosib ei fod wedi teimlo nad oedd yn werthfawr iawn yng ngolwg Jehofa oherwydd ei henaint. Ond nid dyna sut roedd Jehofa’n teimlo. Roedd yn ystyried Simeon yn ddyn ‘cyfiawn’ a oedd yn “ofni Duw” ac fe roddodd iddo’r fraint o weld y baban Iesu. Gwnaeth Jehofa hyd yn oed defnyddio Simeon i ragfynegi mai Iesu fyddai’r Meseia! (Luc 2:25-35) Yn amlwg, doedd Jehofa ddim yn canolbwyntio ar gorff gwan Simeon ond ar ei ffydd gref, “ac roedd yr ysbryd glân arno.”
Gwnaeth Jehofa fendithio Simeon drwy roi’r fraint iddo o weld y baban Iesu ac o broffwydo mai ef, Iesu, a fyddai’r Meseia addawedig
Gelli di hefyd fod yn sicr bod Jehofa’n trysori dy wasanaeth ffyddlon er gwaethaf unrhyw gyfyngiadau sydd arnat ti. Yn ei olwg, mae’n “dderbyniol iawn . . . i rywun roi yn ôl yr hyn sydd ganddo, nid yn ôl yr hyn nad oes ganddo.”—2 Cor. 8:12.
Gyda hynny mewn cof, canolbwyntia ar yr hyn rwyt ti’n gallu ei wneud. Er enghraifft, meddylia am ffyrdd gelli di barhau i gael rhan yn y weinidogaeth, hyd yn oed am gyfnodau byr. A wyt ti’n gallu helpu eraill drwy alwad ffôn neu anfon cerdyn bach? Gall dangos cariad at dy gyd-addolwyr gael effaith bwerus arnyn nhw, yn enwedig pan ddaw hynny gan rywun sydd wedi bod yn gwasanaethu Jehofa am amser hir.
Mae gan rai pobl gyfyngiadau corfforol. Sylwa ar brofiad o Ddwyrain Affrica yn y blwch “Achubodd Ei Bywyd.”
Cofia fod dy esiampl ffyddlon yn gallu calonogi eraill. Rwyt ti’n esiampl o ddyfalbarhad a gelli di fod yn sicr o hyn: “Dydy Duw ddim yn anghyfiawn, felly ni fydd yn anghofio am eich gwaith nac am y cariad rydych chi wedi ei ddangos tuag at ei enw drwy weini ar y rhai sanctaidd a thrwy barhau i wneud hynny.”—Heb. 6:10.
GWNA BETH FEDRI DI I HELPU ERAILL
Mae ymchwil yn dangos bod dynion a merched hŷn sy’n helpu eraill yn meddwl yn gliriach, yn byw yn hirach, ac yn mwynhau iechyd gwell.
Wrth gwrs, ni fydd helpu eraill yn cael gwared ar effeithiau henaint. Dim ond Teyrnas Dduw all wneud hynny drwy gael gwared ar brif achos henaint a marwolaeth—ein cyflwr pechadurus.—Rhuf. 5:12.
Er hynny, mae dy wasanaeth i Jehofa—sy’n cynnwys helpu eraill i ddod i’w adnabod—yn cadw dy obaith yn gryf ac yn gallu cael effaith dda ar dy iechyd. Os wyt ti yn dy henaint, plîs cofia fod Jehofa’n gwerthfawrogi’r hyn rwyt ti’n ei wneud yn ei wasanaeth a bod y gynulleidfa’n trysori dy esiampl ffyddlon.