LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Croeso.
Adnodd ymchwil ar gyfer cyhoeddiadau mewn amryw ieithoedd a gynhyrchir gan Dystion Jehofa yw hwn.
Er mwyn lawrlwytho cyhoeddiadau, dos at jw.org.
Cyhoeddiad
Ieithoedd newydd ar gael: Betsimisaraka (Northern), Betsimisaraka (Southern), Konkomba, Matses, Mi'kmaq
  • Heddiw

Dydd Sadwrn, Hydref 18

Daliwch ati i ofyn, a bydd yn cael ei roi ichi; daliwch ati i geisio, a byddwch chi’n darganfod; daliwch ati i gnocio, a bydd y drws yn cael ei agor ichi.—Luc 11:9.

Oes angen mwy o amynedd arnat ti? Os felly, gweddïa amdano. Mae amynedd yn rhan o ffrwyth yr ysbryd. (Gal. 5:​22, 23) Felly gallwn ni weddïo am ysbryd glân a gofyn i Jehofa am help i feithrin ei ffrwyth. Os ydyn ni’n wynebu sefyllfa sy’n profi ein hamynedd, rydyn ni’n ‘dal ati i ofyn’ am yr ysbryd glân i’n helpu ni i fod yn amyneddgar. (Luc 11:13) Gallwn ni hefyd ofyn am help Jehofa i weld y sefyllfa o’i safbwynt ef. Ac ar ôl gweddïo, mae’n rhaid inni wneud ein gorau i fod yn amyneddgar bob dydd. Os ydyn ni’n dal ati i weddïo am amynedd a gwneud ein gorau i’w ddatblygu, bydd Jehofa yn ein helpu ni i feithrin y rhinwedd hon hyd yn oed os nad oedden ni’n berson amyneddgar o’r blaen. Mae meddwl yn ddwfn am esiamplau o’r Beibl hefyd yn helpu. Mae ’na lawer o esiamplau yn y Beibl o bobl a oedd yn dangos amynedd. Drwy feddwl am yr hanesion hyn, gallwn ni ddysgu sut i fod yn amyneddgar. w23.08 22-23 ¶10-11

Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd—2025

Dydd Sul, Hydref 19

Gollyngwch eich rhwydi er mwyn dal pysgod.—Luc 5:4.

Fe wnaeth Iesu atgoffa’r apostol Pedr bod Jehofa yn ei gefnogi. Unwaith eto fe wnaeth Iesu achosi i Pedr a’r apostolion ddal llawer o bysgod. (Ioan 21:​4-6) Mae’n rhaid bod y wyrth hon wedi atgoffa Pedr y byddai Jehofa yn gallu darparu ar gyfer ei anghenion materol. Efallai roedd Pedr yn cofio Iesu yn dweud y byddai Jehofa yn gofalu am y rhai oedd yn ‘ceisio yn gyntaf y Deyrnas.’ (Math. 6:33) Ac felly gwnaeth Pedr roi ei weinidogaeth yn gyntaf yn hytrach na’i fusnes pysgota. Ar ddiwrnod Pentecost 33 OG, pregethodd yn llawn hyder, gan helpu miloedd i dderbyn y newyddion da. (Act. 2:​14, 37-41) Yna fe wnaeth helpu’r Samariaid a phobl y Cenhedloedd i ddysgu am Iesu Grist a’i ddilyn. (Act. 8:​14-17; 10:​44-48) Yn bendant, roedd Jehofa yn defnyddio Pedr mewn ffordd ryfeddol i ddod â phobl o bob math i mewn i’r gynulleidfa. w23.09 20 ¶1; 23 ¶11

Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd—2025

Dydd Llun, Hydref 20

Rhaid i chi ddweud beth oedd y freuddwyd a beth mae’n ei olygu. Os na wnewch chi bydd eich cyrff chi’n cael eu rhwygo’n ddarnau.—Dan 2:5.

Tua dwy flynedd ar ôl i’r Babiloniaid ddinistrio Jerwsalem, cafodd y Brenin Nebwchadnesar o Fabilon freuddwyd arswydus am ddelw fawr. Roedd yn bygwth lladd ei ddynion doeth i gyd, gan gynnwys Daniel, os nad oedden nhw’n gallu dehongli’r freuddwyd iddo. (Dan. 2:​3-5) Roedd yn rhaid i Daniel weithredu’n gyflym neu byddai llawer o bobl yn colli eu bywydau. Aeth Daniel a “gofyn i’r brenin roi ychydig amser iddo, a byddai’n esbonio iddo beth oedd ystyr y freuddwyd.” (Dan. 2:16) Roedd hynny’n cymryd dewrder a ffydd. Does dim cofnod o Daniel yn dehongli breuddwydion cyn hynny. Gofynnodd i’w ffrindiau “weddïo y byddai Duw y nefoedd yn drugarog, ac yn dweud wrthyn nhw beth oedd ystyr ddirgel y freuddwyd.” (Dan. 2:18) Atebodd Jehofa eu gweddïau. Gyda help Duw, llwyddodd Daniel i ddehongli breuddwyd Nebwchadnesar. Cafodd bywydau Daniel a’i ffrindiau eu harbed. w23.08 3 ¶4

Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd—2025
Croeso.
Adnodd ymchwil ar gyfer cyhoeddiadau mewn amryw ieithoedd a gynhyrchir gan Dystion Jehofa yw hwn.
Er mwyn lawrlwytho cyhoeddiadau, dos at jw.org.
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu