LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • es25 tt. 88-97
  • Medi

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Medi
  • Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd—2025
  • Isbenawdau
  • Dydd Llun, Medi 1
  • Dydd Mawrth, Medi 2
  • Dydd Mercher, Medi 3
  • Dydd Iau, Medi 4
  • Dydd Gwener, Medi 5
  • Dydd Sadwrn, Medi 6
  • Dydd Sul, Medi 7
  • Dydd Llun, Medi 8
  • Dydd Mawrth, Medi 9
  • Dydd Mercher, Medi 10
  • Dydd Iau, Medi 11
  • Dydd Gwener, Medi 12
  • Dydd Sadwrn, Medi 13
  • Dydd Sul, Medi 14
  • Dydd Llun, Medi 15
  • Dydd Mawrth, Medi 16
  • Dydd Mercher, Medi 17
  • Dydd Iau, Medi 18
  • Dydd Gwener, Medi 19
  • Dydd Sadwrn, Medi 20
  • Dydd Sul, Medi 21
  • Dydd Llun, Medi 22
  • Dydd Mawrth, Medi 23
  • Dydd Mercher, Medi 24
  • Dydd Iau, Medi 25
  • Dydd Gwener, Medi 26
  • Dydd Sadwrn, Medi 27
  • Dydd Sul, Medi 28
  • Dydd Llun, Medi 29
  • Dydd Mawrth, Medi 30
Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd—2025
es25 tt. 88-97

Medi

Dydd Llun, Medi 1

Bydd y tosturi hwn o’r nef yn goleuo droston ni fel yr haul yn codi.—Luc 1:78.

Mae Duw wedi rhoi’r gallu i Iesu i ddatrys holl broblemau’r ddynolryw. Drwy gyfrwng ei wyrthiau, dangosodd Iesu fod ganddo’r grym i ddatrys problemau na allen ni byth eu datrys ar ein pennau’n hunain. Er enghraifft, mae ganddo’r grym i gael gwared ar yr hyn sydd wrth wraidd holl broblemau ddynolryw, sef y pechod rydyn ni wedi ei etifeddu a’r pethau mae’n eu hachosi, salwch a marwolaeth. (Math. 9:​1-6; Rhuf. 5:​12, 18, 19) Mae ei wyrthiau’n profi bod ganddo’r gallu i iacháu ‘pob math o salwch’ a hyd yn oed i atgyfodi’r meirw. (Math. 4:23; Ioan 11:​43, 44) Hefyd mae ganddo’r nerth i reoli stormydd gwyllt ac i drechu ysbrydion drwg. (Marc 4:​37-39; Luc 8:2) Onid yw’n galonogol i wybod bod Jehofa wedi rhoi’r fath rym i’w Fab? Gallwn ni fod yn hollol sicr y bydd holl addewidion Duw yn dod yn wir o dan ei Deyrnas. Mae’r gwyrthiau a wnaeth Iesu tra oedd ar y ddaear yn rhoi blas inni o’r pethau y bydd yn eu gwneud yn fyd-eang fel Brenin Teyrnas Dduw. w23.04 3 ¶5-7

Dydd Mawrth, Medi 2

Mae’r ysbryd yn chwilio pob peth, hyd yn oed pethau dwfn Duw.—1 Cor. 2:10.

Os wyt ti mewn cynulleidfa fawr, ac yn teimlo nad yw dy law di yn dal sylw’r arweinydd gall fod yn demtasiwn i roi’r ffidil yn y to. Ond paid â rhoi’r gorau i geisio rhoi sylwad. Ceisia baratoi amryw o sylwadau ar gyfer pob cyfarfod. Wedyn os na fydd yr arweinydd yn dewis dy sylwad cyntaf di, bydd gen ti gyfleoedd eraill i roi sylwad fel mae’r cyfarfod yn mynd yn ei flaen. Wrth baratoi ar gyfer yr Astudiaeth o’r Tŵr Gwylio, meddylia am sut mae pob paragraff yn cyfrannu at thema’r erthygl. Drwy wneud hynny, mae’n debyg bydd gen ti rywbeth i’w gynnig drwy gydol y drafodaeth. Ar ben hynny, gelli di baratoi sylwad ar baragraffau sy’n trafod gwirioneddau dwfn, sy’n fwy anodd i’w hesbonio. Pam? Oherwydd efallai bydd llai yn barod i ateb yn y rhan honno o’r erthygl. Beth os wyt ti’n dal heb gael cyfle i roi sylwad ar ôl nifer o gyfarfodydd? Dyweda wrth yr arweinydd cyn y cyfarfod fod gen ti ateb ar gyfer un cwestiwn penodol. w23.04 22 ¶9-10

Dydd Mercher, Medi 3

[Gwnaeth Joseff] fel yr oedd angel Jehofa wedi dweud wrtho, a dyma’n mynd â’i wraig adref.—Math. 1:24.

Roedd Joseff yn fodlon rhoi arweiniad Jehofa ar waith, ac roedd hynny’n ei helpu i fod yn ŵr gwell. O leiaf dair gwaith, cafodd gyfarwyddiadau gan Dduw oedd yn berthnasol i’w deulu. Bob tro, gwnaeth ef ufuddhau ar unwaith, hyd yn oed pan oedd hynny’n anodd iddo. (Math. 1:20; 2:​13-15, 19-21) Drwy ddilyn arweiniad Duw, roedd Joseff yn gallu amddiffyn Mair a gofalu amdani. Meddylia am yr effaith gafodd y ffordd gwnaeth Joseff ymddwyn ar Mair. Rhaid bod hynny wedi cryfhau ei chariad a’i pharch tuag ato. Os wyt ti’n ŵr priod, gelli di efelychu Joseff drwy chwilio yn y Beibl am gyngor am sut i ofalu am dy deulu. Pan fyddi di’n rhoi’r cyngor hwn ar waith, hyd yn oed os ydy hynny’n golygu gwneud newidiadau, byddi di’n dangos cariad at dy wraig ac yn cryfhau dy briodas. Mae chwaer yn Fanwatw, sydd wedi bod yn briod ers dros 20 mlynedd, yn dweud: “Pan fydd fy ngŵr yn chwilio am arweiniad Jehofa a’i roi ar waith, dw i’n ei barchu’n fwy. Mae’n gwneud imi deimlo’n saff, ac yn fy helpu i drystio ei benderfyniadau.” w23.05 21 ¶5

Dydd Iau, Medi 4

Bydd priffordd; ie, ffordd yno sy’n cael ei galw, ‘Y Ffordd Sanctaidd.’—Esei. 35:8.

Roedd rhaid i’r Iddewon oedd yn dychwelyd o Fabilon fod “yn bobl sanctaidd” i Dduw. (Deut. 7:​6, BCND) Ond er hynny, roedden nhw’n dal i wneud newidiadau er mwyn plesio Jehofa. Gan fod llawer o’r Iddewon wedi cael eu geni ym Mabilon, mae’n ymddangos fel bod rhai wedi dod i arfer â safonau a ffordd o feddwl y Babiloniaid. Ddegawdau ar ôl i’r Iddewon cyntaf ddychwelyd i Israel, cafodd y Llywodraethwr Nehemeia ei synnu o weld bod plant a gafodd eu geni yn Israel heb ddysgu iaith yr Iddewon. (Deut. 6:​6, 7; Neh. 13:​23, 24) Sut yn y byd gallai’r plant hynny ddysgu i garu Jehofa a’i addoli os nad oedden nhw’n gallu deall Hebraeg—y brif iaith roedd Gair Duw wedi ei ysgrifennu ynddi? (Esra 10:​3, 44) Felly byddai’n rhaid i’r Iddewon hynny wneud newidiadau mawr, ond byddai’n llawer haws gwneud hynny yn Israel, lle roedd addoliad pur yn cael ei adfer yn raddol.—Neh. 8:​8, 9. w23.05 15 ¶6-7

Dydd Gwener, Medi 5

Mae’r ARGLWYDD yn cynnal pawb sy’n syrthio, ac yn gwneud i bawb sydd wedi eu plygu drosodd sefyll yn syth.—Salm 145:14.

Yn anffodus, gallwn ni i gyd wynebu anawsterau ni waeth pa mor awyddus ydyn ni, na faint o hunanreolaeth rydyn ni’n ei dangos. Er enghraifft, gall pethau annisgwyl gymryd yr amser rydyn ni ei angen i weithio ar ein nod. (Preg. 9:11) Efallai byddwn ni’n wynebu problem sy’n gwneud inni deimlo’n wan neu’n ddigalon. (Diar. 24:10) Gall ein hamherffeithrwydd ei gwneud hi’n anoddach inni gyrraedd y nod. (Rhuf. 7:23) Neu efallai ein bod ni jyst wedi blino. (Math. 26:43) Beth all ein helpu ni os ydyn ni’n wynebu anawsterau neu’n cael diwrnod drwg? Cofia nad yw llithro’n ôl yn golygu dy fod ti wedi methu. Yn ôl y Beibl, byddwn ni’n wynebu anawsterau, dro ar ôl tro weithiau. Ond mae hefyd yn dweud y gallwn ni godi’n ôl ar ein traed. Bob tro rwyt ti’n symud yn dy flaen ar ôl syrthio, rwyt ti’n profi i Jehofa dy fod ti eisiau ei blesio. Mae’n rhaid bod Jehofa mor hapus yn dy weld ti’n dal ati i geisio cyrraedd dy nod! w23.05 30 ¶14-15

Dydd Sadwrn, Medi 6

[Byddwch] yn esiamplau i’r praidd.—1 Pedr 5:3.

Mae arloesi yn helpu dyn ifanc i ddysgu sut i weithio yn effeithiol gyda gwahanol bobl. Mae hefyd yn ei helpu i wybod sut i drin ei arian. (Phil. 4:​11-13) Cam da tuag at wasanaethu’n llawn amser ydy arloesi’n gynorthwyol, sy’n helpu rhywun i baratoi ar gyfer arloesi’n llawn amser. Gall arloesi agor y drws i ffyrdd eraill o wasanaethu’n llawn amser, fel gweithio ar brosiectau adeiladu neu weithio yn y Bethel. Dylai dynion Cristnogol gael y nod o wasanaethu eu brodyr a’i chwiorydd fel henuriaid yn y gynulleidfa. Mae’r Beibl yn dweud fod dynion sy’n ceisio estyn allan yn “awyddus i wneud gwaith da.” (1 Tim. 3:1) Cyn cael y fraint o fod yn henuriad, mae’n rhaid i frawd fod yn was y gynulleidfa. Mae gweision y gynulleidfa yn helpu’r henuriaid mewn llawer o wahanol ffyrdd. Mae henuriaid a gweision y gynulleidfa yn gwasanaethu eu brodyr a’u chwiorydd yn ostyngedig ac yn cael rhan selog yn y weinidogaeth. w23.12 28 ¶14-16

Dydd Sul, Medi 7

Pan oedd . . . yn dal yn fachgen ifanc un deg chwech oed, dechreuodd addoli Duw fel y Brenin Dafydd. —2 Cron. 34:3.

Roedd y Brenin Joseia yn ei arddegau pan ddechreuodd agosáu at Jehofa. Roedd eisiau dysgu am Jehofa a gwneud Ei ewyllys. Ond doedd bywyd ddim yn hawdd i’r brenin ifanc yma. Roedd yn rhaid iddo wneud safiad dros addoliad pur ar adeg pan oedd y mwyafrif yn addoli gau dduwiau. Cyn i Joseia droi’n 20 oed, dechreuodd gael gwared ar gau addoliad o’r genedl. (2 Cronicl 34:​1, 2) Hyd yn oed os wyt ti’n ifanc iawn, gelli di benderfynu efelychu Joseia drwy chwilio am Jehofa a dysgu am Ei rinweddau hyfryd. Bydd gwneud hynny yn dy gymell di i gysegru dy hun iddo. Sut bydd hyn yn effeithio ar dy fywyd bob dydd? Mae Luke, a gafodd ei fedyddio’n 14 oed yn dweud: “O hyn ymlaen, y peth pwysicaf yn fy mywyd fydd gwasanaethu Jehofa, a dw i am wneud fy ngorau i’w wneud yn hapus.” (Marc 12:30) Byddi di’n cael dy fendithio os wyt ti’n gwneud yr un fath! w23.09 11 ¶12-13

Dydd Llun, Medi 8

Rydyn ni’n gofyn ichi ddangos parch tuag at y rhai sy’n gweithio’n galed yn eich plith ac sy’n eich arwain yn yr Arglwydd.—1 Thes. 5:12.

Roedd y gynulleidfa yn Thesalonica yn llai na blwydd oed pan ysgrifennodd yr apostol Paul y llythyr hwn atyn nhw. Mae’n debyg bod y brodyr apwyntiedig yno yn ddibrofiad ac wedi gwneud camgymeriadau. Ond er hynny, roedden nhw’n dal yn haeddu parch. Wrth i’r trychineb mawr agosáu, efallai byddwn ni’n colli cysylltiad â’r pencadlys a’r swyddfa gangen, ac o ganlyniad yn gorfod dibynnu ar yr henuriaid lleol am arweiniad yn fwy byth. Felly mae’n bwysig iawn ein bod ni’n dysgu i garu a pharchu ein henuriaid nawr. Ni waeth beth sydd o’n blaenau, dewch inni gadw ein pennau drwy beidio â chanolbwyntio ar eu gwendidau. Yn hytrach, dewch inni ganolbwyntio ar y ffaith bod Jehofa’n defnyddio Crist i arwain y dynion ffyddlon hyn. Yn union fel mae helmed yn amddiffyn pen milwr, mae ein gobaith o gael ein hachub yn amddiffyn ein ffordd o feddwl. Rydyn ni’n deall bod popeth sydd gan y byd i’w gynnig yn ddi-werth. (Phil. 3:8) Mae ein gobaith yn ein helpu i beidio â chynhyrfu ac i aros yn sefydlog. w23.06 11-12 ¶11-12

Dydd Mawrth, Medi 9

Mae’r wraig arall, sef Ffolineb, yn gwneud lot o sŵn; mae hi’n wirion.—Diar. 9:13.

Mae gan y rhai sy’n clywed llais y ‘wraig wirion’ benderfyniad i’w wneud: Derbyn ei gwahoddiad, neu ei wrthod. Mae ’na resymau da dros osgoi ymddygiad rhywiol anfoesol. Yn ôl y Beibl, mae’r ‘wraig wirion’ yn dweud: “Mae dŵr sydd wedi ei ddwyn yn felys.” (Diar. 9:17) Mae’r Beibl yn cymharu rhyw rhwng gŵr a gwraig â dŵr sy’n adfywio. (Diar. 5:​15-18) Gall gŵr a gwraig sydd mewn priodas gyfreithlon fwynhau cael rhyw â’i gilydd. Ond mae “dŵr sydd wedi ei ddwyn” yn hollol wahanol. Mae’n gallu cyfeirio at ryw anfoesol. Pan mae pobl yn gwneud y fath bethau, maen nhw fel arfer yn ceisio cuddio beth maen nhw’n ei wneud, yn union fel lleidr. Ac os ydyn nhw’n meddwl na fydd neb yn ffeindio allan am beth maen nhw wedi ei wneud, efallai bydd y “dŵr sydd wedi ei ddwyn” yn blasu’n fwy melys byth iddyn nhw. Ond maen nhw’n twyllo eu hunain, achos mae Jehofa yn gweld popeth. Does ’na ddim byd yn fwy chwerw na cholli ffafr Jehofa, felly yn sicr dydy hi ddim yn beth “melys.”—1 Cor. 6:​9, 10. w23.06 22 ¶7-9

Dydd Mercher, Medi 10

Os ydw i’n gwneud hyn hyd yn oed yn erbyn fy ewyllys, mae gen i o hyd weinyddiaeth sydd wedi ei hymddiried imi.—1 Cor. 9:17.

Beth os wyt ti’n teimlo bod dy weddïau a dy weinidogaeth wedi troi’n fecanyddol am gyfnod? Paid â dod i’r casgliad dy fod ti wedi colli ysbryd Jehofa. Rydyn ni’n amherffaith, felly gall ein teimladau amrywio. Os wyt ti’n dechrau colli dy sêl, myfyria ar esiampl yr apostol Paul. Roedd yn ceisio efelychu Iesu, ond roedd hefyd yn gwybod na fyddai’n teimlo’n frwdfrydig drwy’r adeg. Roedd Paul yn benderfynol o gyflawni ei weinidogaeth, er gwaethaf sut roedd ef yn teimlo yn y foment. Mewn ffordd debyg, paid â gwneud penderfyniadau ar sail dy deimladau amherffaith. Bydda’n benderfynol o wneud y peth iawn er gwaethaf sut rwyt ti’n teimlo. Os wyt ti’n parhau i wneud beth sy’n iawn, bydd teimladau da yn dilyn.—1 Cor. 9:16. w24.03 11-12 ¶12-13

Dydd Iau, Medi 11

Profwch eich cariad iddyn nhw.—2 Cor. 8:24.

Mae’n bosib i ninnau ddangos cariad at ein brodyr a’n chwiorydd trwy roi croeso cynnes iddyn nhw a threulio amser gyda nhw. (2 Cor. 6:​11-13) Mae llawer o’r brodyr a’r chwiorydd yn ein cynulleidfaoedd yn dod o gefndiroedd gwahanol ac mae ganddyn nhw bersonoliaethau gwahanol. Gallwn ni gryfhau’r cariad rhyngddon ni drwy ganolbwyntio ar eu rhinweddau. Drwy ddysgu i weld eraill fel mae Jehofa yn eu gweld, rydyn ni’n profi ein bod ni’n eu caru. Bydd cariad yn hanfodol yn ystod y trychineb mawr. Ond yn ystod yr adeg honno, sut bydd Jehofa yn ein hamddiffyn ni? Ystyria gyfarwyddiadau Jehofa i’w bobl pan oedd Babilon o dan ymosodiad: “Ewch, fy mhobl! Ewch i’ch ystafelloedd, a chloi’r drysau ar eich hôl. Cuddiwch am funud fach, nes i’w lid basio heibio.” (Esei. 26:20) Efallai bydd angen i ni ddilyn yr un cyfarwyddiadau yn ystod y trychineb mawr. w23.07 6-7 ¶14-16

Dydd Gwener, Medi 12

[Mae] golygfa’r byd hwn yn newid.—1 Cor. 7:31.

Gwna enw i ti dy hun o fod yn rhesymol. Gofynna i ti dy hun: ‘A ydy pobl yn fy ngweld i’n rhesymol, yn barod i ildio, ac yn oddefgar? Neu a ydyn nhw’n fy ngweld i’n berson ddi-ildio, llym, neu bengaled? A ydw i’n gwrando ar eraill ac yn ildio i’w gofynion pan fydd hynny’n briodol?’ Y mwyaf rhesymol ydyn ni, y mwyaf rydyn ni’n efelychu Jehofa ac Iesu. Mae bod yn rhesymol yn cynnwys bod yn hyblyg pan fydd ein hamgylchiadau yn newid. Gall y fath newidiadau greu caledi annisgwyl inni. Gallwn wynebu argyfwng iechyd. Neu gall newidiadau yn yr economi neu yn y byd gwleidyddol wneud ein bywydau yn anodd iawn. (Preg. 9:11) Gall hyd yn oed newid mewn aseiniad theocrataidd roi prawf arnon ni. Gallwn ni addasu yn llwyddiannus i amgylchiadau newydd os wnawn ni ddilyn y pedwar cam canlynol: (1) derbyn ein realiti, (2) edrych i’r dyfodol, (3) canolbwyntio ar y positif, a (4) gwneud pethau ar gyfer eraill. w23.07 21-22 ¶7-8

Dydd Sadwrn, Medi 13

Rwyt ti’n sbesial iawn yng ngolwg Duw.—Dan. 9:23.

Roedd y proffwyd Daniel yn ddyn ifanc pan gafodd ei gipio gan y Babiloniaid a’i gymryd yn garcharor i Fabilon, yn bell o Jerwsalem. Ond er ei fod yn ifanc, mae’n amlwg bod Daniel wedi gwneud argraff fawr ar y swyddogion. Roedden nhw’n “edrych ar y tu allan” ac yn gweld bod Daniel yn “iach a golygus” a’i fod yn dod o deulu pwysig. (1 Sam. 16:7) Am y rhesymau hynny, fe wnaeth y Babiloniaid ei hyfforddi i wasanaethu yn y palas. (Dan. 1:​3, 4, 6) Roedd Jehofa yn caru Daniel, oherwydd y math o berson dewisodd Daniel i fod. Mewn gwirionedd, pan ddywedodd Jehofa fod Daniel fel Noa a Job, mae’n debyg bod Daniel tua ugain mlwydd oed. Felly roedd Jehofa yn ystyried Daniel i fod mor gyfiawn â Noa a Job a oedd wedi ei wasanaethu yn ffyddlon am lawer o flynyddoedd. (Gen. 5:32; 6:​9, 10; Job 42:​16, 17; Esec. 14:14) Roedd Jehofa yn parhau i garu Daniel ar hyd ei oes.—Dan. 10:​11, 19. w23.08 2 ¶1-2

Dydd Sul, Medi 14

Er mwyn ichi . . . allu deall yn llawn beth yw’r lled a’r hyd a’r uchder a’r dyfnder.—Eff. 3:18.

Wrth benderfynu prynu tŷ, byddet ti eisiau gweld pob manylyn ohono drostot ti dy hun. Rydyn ni’n gallu gwneud rhywbeth tebyg wrth inni ddarllen ac astudio’r Beibl. Os wyt ti’n ei ddarllen yn gyflym, efallai byddi di ond yn dysgu ‘pethau sylfaenol neges Dduw.’ (Heb. 5:12) Yn lle hynny, dos i mewn i’r tŷ fel petai, i weld ei holl brydferthwch. Ffordd wych o astudio’r Beibl yw gweld sut mae’r gwahanol rannau o’r neges yn cysylltu â’i gilydd. Ceisia ddeall, nid yn unig beth rwyt ti’n ei gredu, ond hefyd pam rwyt ti’n ei gredu. Er mwyn deall Gair Duw yn llawn, mae’n rhaid inni ddysgu gwirioneddau dwfn y Beibl. Fe wnaeth yr apostol Paul annog ei frodyr a’i chwiorydd Cristnogol i astudio Gair Duw yn fanwl er mwyn iddyn nhw allu deall yn llawn lled, hyd, uchder, a dyfnder y gwir. Yna bydden nhw’n cael eu ‘gwreiddio a’u sefydlu’ yn eu ffydd. (Eff. 3:​14-19) Mae’n rhaid i ni wneud yr un fath. w23.10 18 ¶1-3

Dydd Llun, Medi 15

Frodyr, byddwch yn debyg i’r proffwydi a siaradodd yn enw Jehofa. Fe wnaethon nhw ddioddef llawer o dreialon ac fe wnaethon nhw ddyfalbarhau yn amyneddgar. —Iago 5:10.

Mae llawer iawn o esiamplau yn y Beibl o bobl a oedd yn amyneddgar. Gallai fod yn fuddiol i astudio’r esiamplau hynny. Er enghraifft, er bod Dafydd yn fachgen pan gafodd ei eneinio i fod yn frenin dros Israel, roedd rhaid iddo ddisgwyl am flynyddoedd cyn iddo dderbyn y frenhiniaeth. Gwnaeth Simeon ac Anna wasanaethu’n ffyddlon wrth iddyn nhw ddisgwyl am y Meseia addawedig. (Luc 2:​25, 36-38) Wrth iti astudio’r hanesion hyn, edrycha am yr atebion i’r cwestiynau canlynol: Beth allai fod wedi helpu’r bobl hyn i ddangos amynedd? Beth oedd y buddion o fod yn amyneddgar? Sut galla i efelychu eu hamynedd? Gelli di hefyd elwa o ddysgu am y rhai a wnaeth beidio â dangos amynedd. (1 Sam. 13:​8-14) Gelli di ofyn: ‘Beth achosodd iddyn nhw ddangos diffyg amynedd? Beth oedd y canlyniadau?’ w23.08 25 ¶15

Dydd Mawrth, Medi 16

Rydyn ni wedi credu ac wedi dod i wybod mai ti ydy Un Sanctaidd Duw.—Ioan 6:69.

Roedd yr apostol Pedr yn ffyddlon. Ni wnaeth adael i unrhyw beth wneud iddo stopio dilyn Iesu. Dangosodd ei ffyddlondeb ar un adeg pan ddywedodd Iesu rywbeth nad oedd ei ddisgyblion yn ei ddeall. (Ioan 6:68) Penderfynodd llawer stopio dilyn Iesu heb aros am esboniad. Ond nid dyna a wnaeth Pedr. Sylweddolodd ef mai dim ond Iesu oedd yn “dysgu am fywyd tragwyddol.” Roedd Iesu’n gwybod y byddai Pedr a’r apostolion eraill yn ei adael. Er hynny, roedd Iesu’n hyderus y byddai Pedr yn dod yn ôl ac yn aros yn ffyddlon. (Luc 22:​31, 32) Roedd Iesu’n deall bod yr “ysbryd yn awyddus,” ond bod y “cnawd yn wan.” (Marc 14:38) Felly dangosodd Iesu hyder yn Pedr hyd yn oed ar ôl iddo ei wadu. Ar ôl cael ei atgyfodi, ymddangosodd Iesu i Pedr, yn amlwg pan oedd Pedr ar ei ben ei hun. (Marc 16:7; Luc 24:34; 1 Cor. 15:5) Meddylia am gymaint byddai hynny wedi calonogi Pedr a oedd wedi torri ei galon yn llwyr! w23.09 22 ¶9-10

Dydd Mercher, Medi 17

Hapus ydy’r rhai y mae eu drwgweithredu wedi cael ei faddau iddyn nhw a’u pechodau wedi cael eu hanghofio.—Rhuf. 4:7.

Mae Duw yn maddau neu’n gorchuddio pechodau’r rhai sy’n rhoi ffydd ynddo. Mae’n maddau iddyn nhw’n llwyr ac nid yw bellach yn cadw cofnod o’u pechodau. (Salm 32:​1, 2) Mae’n gweld unigolion o’r fath yn ddieuog ac yn gyfiawn ar sail eu ffydd. Er eu bod nhw wedi eu galw’n gyfiawn, roedd Abraham, Dafydd, ac addolwyr ffyddlon eraill Duw yn dal i fod yn bechaduriaid amherffaith. Ond, oherwydd eu ffydd, roedd Duw yn eu hystyried yn ddifai, yn enwedig o’u cymharu â’r rhai nad oedd yn ei addoli. (Eff. 2:12) Fel y mae’r apostol Paul yn dweud yn glir yn ei lythyr, mae ffydd yn hanfodol er mwyn cael perthynas bersonol â Duw. Roedd hynny’n wir yn achos Abraham a Dafydd, ac mae’n wir yn ein hachos ni hefyd. w23.12 3 ¶6-7

Dydd Iau, Medi 18

Gadewch inni bob amser offrymu i Dduw aberth o foliant, hynny yw, ffrwyth ein gwefusau sy’n datgan yn gyhoeddus ei enw.—Heb. 13:15.

Heddiw, mae gan bob un Cristion y fraint o wasanaethu Jehofa drwy ddefnyddio eu hamser, eu hegni, a’u pethau materol. Rydyn ni’n gallu dangos i Jehofa pa mor ddiolchgar ydyn ni o’r fraint o’i wasanaethu drwy wneud ein gorau oll. Roedd yr apostol Paul yn pwysleisio rhannau o’n haddoliad ni ddylen ni byth eu hanghofio. (Heb. 10:​22-25) Mae’r rhain yn cynnwys gweddïo ar Jehofa, mynd ar y weinidogaeth, mynd i’r cyfarfodydd, a chalonogi ein gilydd, ‘a hynny yn fwy byth wrth inni weld dydd Jehofa yn dod yn agos.’ Tuag at ddiwedd llyfr Datguddiad, mae angel Jehofa yn pwysleisio rhywbeth drwy ei ddweud dwywaith: “Addola Dduw!” (Dat. 19:10; 22:9) Gad inni byth anghofio beth rydyn ni wedi ei ddysgu am deml fawr ysbrydol Jehofa a’r fraint anhygoel sydd gynnon ni o addoli ein Duw mawr! w23.10 29 ¶17-18

Dydd Gwener, Medi 19

Gadewch inni barhau i garu ein gilydd.—1 Ioan 4:7.

Mae pob un ohonon ni angen ‘parhau i garu ein gilydd.’ Ond, mae’n bwysig inni gofio rhybudd Iesu: “Bydd cariad y rhan fwyaf o bobl yn oeri.” (Math. 24:12) Doedd Iesu ddim yn golygu y byddai rhan fwyaf o’i ddisgyblion yn stopio dangos cariad tuag at ei gilydd. Er hynny, mae’n rhaid inni gadw’n effro er mwyn peidio â chael ein dylanwadu gan y diffyg cariad sydd yn y byd. Trwy gofio hynny, gad inni ystyried y cwestiwn pwysig hwn: A oes ’na ffordd i brofi a ydy ein cariad tuag at ein brodyr a’n chwiorydd yn gryf? Gall y ffordd rydyn ni’n ymateb i sefyllfaoedd gwahanol ddangos pa mor gryf ydy ein cariad. Mae’r apostol Pedr yn sôn am sefyllfa o’r fath trwy ddweud: “Uwchlaw popeth, dangoswch gariad dwfn tuag at eich gilydd, oherwydd mae cariad yn gorchuddio nifer mawr o bechodau.” (1 Pedr 4:8) Felly, gall gwendidau ac amherffeithion ein brodyr roi prawf ar ein cariad. w23.11 10-11 ¶12-13

Dydd Sadwrn, Medi 20

Dylech chithau garu eich gilydd. —Ioan 13:34.

Dydyn ni ddim yn gallu bod yn ufudd i’r gorchymyn hwnnw os ydyn ni’n dangos cariad at rai yn y gynulleidfa ond nid i eraill. Wrth gwrs, byddwn ni’n teimlo’n agosach at rai nag eraill, fel oedd Iesu. (Ioan 13:23; 20:2) Ond mae’r apostol Pedr yn ein hatgoffa ni y dylen ni gael cariad brawdol at ein brodyr a’n chwiorydd i gyd, hynny yw, teimlo fel eu bod nhw’n rhan o’n teulu. (1 Pedr 2:17) Gwnaeth Pedr ein hannog ni i garu ein gilydd “o waelod calon.” (1 Pedr 1:22) Yn y cyd-destun hwn, mae caru “o waelod calon” yn golygu mynd y tu hwnt i’n tueddiadau naturiol. Er enghraifft, beth petai brawd yn ein pechu ni neu’n ein brifo ni mewn rhyw ffordd? Efallai byddwn ni eisiau talu’r pwyth yn ôl yn hytrach na dangos cariad. Ond, dysgodd Pedr oddi wrth Iesu dydy hynny ddim yn plesio Duw. (Ioan 18:​10, 11) Ysgrifennodd Pedr: “Peidiwch â thalu yn ôl ddrwg am ddrwg na sarhad am sarhad. Yn hytrach, talwch yn ôl â bendith.” (1 Pedr 3:9) Gad i gariad o waelod calon dy gymell di i fod yn garedig ac yn ystyriol. w23.09 28-29 ¶9-11

Dydd Sul, Medi 21

Dylai merched hefyd . . . ymddwyn mewn ffordd gytbwys, yn ffyddlon ym mhob peth.—1 Tim. 3:11.

Mae’n ein synnu ni pa mor gyflym mae plentyn yn troi yn oedolyn. Mae’r newid yn ymweld i ddigwydd ar ei ben ei hun. Ond, mae aeddfedu yn ysbrydol angen ymdrech. (1 Cor. 13:11; Heb. 6:1) Er mwyn cyrraedd y nod hwnnw, mae’n rhaid inni gael perthynas agos â Jehofa. Rydyn ni hefyd angen ei ysbryd glân wrth inni ddatblygu Ei rinweddau, dysgu sgiliau ymarferol, a pharatoi ar gyfer cyfrifoldebau yn y dyfodol. (Diar. 1:5) Creodd Jehofa fodau dynol i fod yn wryw a benyw. (Gen. 1:27) Mae’n amlwg bod dynion a merched yn wahanol yn gorfforol. Ond, maen nhw’n wahanol mewn ffyrdd eraill hefyd. Er enghraifft, creodd Jehofa ddynion a merched i gyflawni swydd wahanol. Felly maen nhw angen sgiliau a rhinweddau gwahanol i allu gwneud eu haseiniadau.—Gen. 2:18. w23.12 18 ¶1-2

Dydd Llun, Medi 22

Gwnewch ddisgyblion o bobl o’r holl genhedloedd, gan eu bedyddio nhw yn enw’r Tad a’r Mab.—Math. 28:19.

A oedd Iesu eisiau i bobl eraill ddefnyddio enw personol ei Dad? Yn bendant. Efallai fod rhai arweinwyr crefyddol y dydd yn meddwl bod enw Duw yn rhy sanctaidd i’w ddweud yn uchel, ond ni wnaeth Iesu adael i draddodiadau anysgrythurol ei stopio rhag anrhydeddu enw ei Dad. Ystyria’r amser pan wnaeth iacháu dyn roedd cythreuliaid wedi bod ynddo, yn ardal y Geraseniaid. Cododd ofn ar y bobl a gwnaethon nhw ymbil ar Iesu i fynd i ffwrdd o’r ardal, ac felly fe aeth. (Marc 5:​16, 17) Er hynny, roedd Iesu eisiau i enw Duw gael ei gyhoeddi yno. Felly, anfonodd y dyn a oedd wedi ei iacháu i ddweud wrth y bobl, nid beth roedd Iesu wedi ei wneud, ond beth roedd Jehofa wedi ei wneud. (Marc 5:19) Mae eisiau’r un fath heddiw—inni hysbysebu enw ei Dad drwy’r byd i gyd! (Math. 24:14; 28:20) Pan ydyn ni’n gwneud ein rhan, rydyn ni’n plesio ein Brenin, Iesu. w24.02 10 ¶10

Dydd Mawrth, Medi 23

Rwyt ti wedi dal ati er mwyn fy enw.—Dat. 2:3.

Mae’n fendith go iawn i fod yn rhan o gyfundrefn Jehofa yn yr amser cythryblus hwn. Wrth i gyflwr y byd waethygu, mae Jehofa wedi rhoi inni deulu ysbrydol o frodyr a chwiorydd unedig. (Salm 133:1) Mae’n ein helpu ni i gael rhwymau teuluol cryf. (Eff. 5:33–6:1) Ac mae’n rhoi’r doethineb sydd ei angen arnon ni i gael gwir heddwch mewnol. Er hynny, mae’n rhaid inni weithio’n galed i wasanaethu Jehofa yn ffyddlon. Pam? Oherwydd, ar adegau gall amherffeithion pobl eraill ein pechu ni. Ar ben hynny, mae’n anodd delio â diffygion ni’n hunain, yn enwedig os ydyn ni’n gwneud yr un camgymeriadau drosodd a throsodd. Mae angen inni ddyfalbarhau i wasanaethu Jehofa (1) pan fydd cyd-addolwr yn ein pechu ni (2) pan fydd ein gŵr neu’n gwraig yn ein siomi ni, a (3) pan fyddwn ni’n siomedig gyda ni’n hunain. w24.03 14 ¶1-2

Dydd Mercher, Medi 24

Pa bynnag gynnydd rydyn ni wedi ei wneud, gadewch inni ddal ati i gerdded mewn ffordd drefnus ar yr un llwybr hwn.—Phil. 3:16.

O bryd i’w gilydd, byddi di’n clywed profiadau brodyr a chwiorydd sy’n penderfynu gwneud mwy yng ngwasanaeth Jehofa. Efallai gwnaethon nhw fynychu’r Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas, neu symud i le mae’r angen yn fwy. Mae pobl Jehofa yn wastad yn awyddus i wneud mwy yn y weinidogaeth. Felly, os wyt ti’n gallu gosod nod o’r fath, dos amdani! (Act. 16:9) Ond beth os dwyt ti ddim yn gallu gwneud hynny ar hyn o bryd? Paid â digalonni. Mae dyfalbarhad yn hollbwysig yn y ras Cristnogol. (Math. 10:22) Cofia fod Jehofa’n gwerthfawrogi popeth rwyt ti’n gallu ei wneud yn ôl dy amgylchiadau. Mae hynny’n ffordd bwysig o ddal ati i ddilyn Iesu ar ôl iti gael dy fedyddio.—Salm 26:1. w24.03 10 ¶11

Dydd Iau, Medi 25

Yn garedig iawn, fe wnaeth ef faddau inni ein holl bechodau.—Col. 2:13.

Mae ein Tad nefol yn addo maddau inni os ydyn ni’n edifar. (Salm 86:5) Felly, os ydyn ni’n wir yn teimlo’n ddrwg am ein pechodau, gallwn ni fod yn hollol hyderus bod Jehofa wedi maddau inni. Cofia fod Jehofa’n rhesymol. Os ydyn ni’n gwneud ein gorau glas, mae’n gwerthfawrogi pob ymdrech rydyn ni’n ei wneud. Dydy ef ddim yn disgwyl inni wneud rhywbeth dydyn ni ddim yn gallu ei wneud. Hefyd, myfyria ar esiamplau pobl yn y Beibl a wnaeth wasanaethu Jehofa gyda’u holl galon. Meddylia am yr apostol Paul. Gweithiodd Paul yn galed am flynyddoedd, yn teithio miloedd o filltiroedd, ac yn sefydlu llawer o gynulleidfaoedd. Ond yna gwnaeth ei amgylchiadau gyfyngu ar ei waith o bregethu. A oedd hynny’n golygu bod Paul wedi colli cymeradwyaeth Jehofa? Nag oedd. Daliodd ati i wneud ei orau, a gwnaeth Jehofa bendithio ei ymdrechion. (Act. 28:​30, 31) Weithiau, mae’r gorau gallwn ni ei roi i Jehofa yn amrywio. Ond beth sy’n bwysig i Jehofa ydy pam rydyn ni’n ei wneud. w24.03 27 ¶7, 9

Dydd Gwener, Medi 26

Yn gynnar yn y bore, . . . cododd Iesu a mynd allan i le unig, a dechreuodd weddïo yno.—Marc 1:35.

Drwy gyfrwng ei weddïau i Jehofa, gosododd Iesu esiampl i’w ddisgyblion ei dilyn. Drwy gydol ei weinidogaeth, roedd Iesu’n gweddïo’n aml. Roedd rhaid iddo neilltuo amser i weddïo oherwydd roedd llawer o bobl yn dod ato, ac roedd yn brysur. (Marc 6:​31, 45, 46) Roedd yn codi’n gynnar yn y bore er mwyn cael amser ar ei ben ei hun i weddïo. Ar o leiaf un achlysur, fe weddïodd drwy’r nos cyn gwneud penderfyniad pwysig. (Luc 6:​12, 13) A gweddïodd dro ar ôl tro ar y noson cyn iddo farw, wrth iddo ganolbwyntio ar gyflawni’r rhan fwyaf heriol o’i aseiniad ar y ddaear. (Math. 26:​39, 42, 44) Mae esiampl Iesu yn ein dysgu bod angen inni neilltuo amser i weddïo, ni waeth pa mor brysur ydyn ni. Fel Iesu, efallai bydd rhaid i ni drefnu amser penodol ar gyfer gweddi, drwy godi’n gynnar yn y bore, neu aros yn effro ychydig yn hwyrach cyn mynd i gysgu. Pan wnawn ni hyn, rydyn ni’n dangos i Jehofa ein bod ni’n gwerthfawrogi’r rhodd arbennig hon. w23.05 3 ¶4-5

Dydd Sadwrn, Medi 27

Mae . . . cariad Duw wedi cael ei dywallt i mewn i’n calonnau trwy’r ysbryd glân a roddodd Duw inni.—Rhuf. 5:5.

Sylwa ar y gair ‘tywallt’ yn y testun uchod. Mae un geiriadur Beiblaidd yn ei ddisgrifio fel “nant sy’n dod droston ni.” Mae’r eglureb hon yn wir yn dangos y cariad sydd gan Jehofa tuag at yr eneiniog! Mae’r eneiniog yn gwybod bod “Duw y Tad yn eu caru.” (Jwd. 1) Dywedodd yr apostol Ioan sut roedden nhw’n teimlo pan ysgrifennodd: “Gwelwch pa fath o gariad mae’r Tad wedi ei ddangos tuag aton ni: mae ef wedi ein galw ni’n blant i Dduw!” (1 Ioan 3:1) Ydy Jehofa ond yn caru’r eneiniog? Nac ydy, mae Jehofa wedi profi ei gariad tuag at bob un ohonon ni. Beth ydy’r ffordd fwyaf mae Jehofa wedi dangos ei gariad? Y pris y mae wedi ei dalu—y weithred fwyaf o gariad yn y bydysawd!—Ioan 3:16; Rhuf. 5:8. w24.01 28 ¶9-10

Dydd Sul, Medi 28

Bydd y gelyn yn ffoi pan fydda i’n galw arnat ti. Achos dw i’n gwybod un peth—mae Duw ar fy ochr i. —Salm 56:9.

Mae’r adnod uchod yn datgelu ffordd arall gwnaeth Dafydd drechu ei ofnau. Er bod ei fywyd yn y fantol, myfyriodd ar beth byddai Jehofa yn ei wneud drosto yn y dyfodol. Roedd Dafydd yn gwybod byddai Jehofa yn ei achub ar yr amser iawn. Wedi’r cwbl, roedd Jehofa wedi dweud mai Dafydd fyddai brenin nesaf Israel. (1 Sam. 16:​1, 13) I Dafydd, roedd pob addewid gan Jehofa yn siŵr o ddigwydd. Beth mae Jehofa wedi ei addo ar dy ran di? Dydyn ni ddim yn disgwyl iddo ein hamddiffyn rhag ein holl broblemau. Ond, pa bynnag dreialon rydyn ni’n eu hwynebu yn y system hon, mae Jehofa yn addo cael gwared arnyn nhw yn y byd newydd. (Esei. 25:​7-9) Mae ein Creawdwr yn ddigon cryf i atgyfodi’r meirw, i’n hiacháu ni, ac i gael gwared ar unrhyw wrthwynebwyr.—1 Ioan 4:4. w24.01 6 ¶12-13

Dydd Llun, Medi 29

Mae’r un sydd wedi cael maddeuant . . . wedi ei fendithio’n fawr, mae ei bechodau wedi eu symud o’r golwg am byth.—Salm 32:1.

Myfyria ar dy gysegriad a bedydd. Gwnest ti gymryd y camau hyn oherwydd dy fod ti eisiau sefyll ar ochr Jehofa. Cofia beth wnaeth dy berswadio di dy fod ti wedi dod o hyd i’r gwir. Gwnest ti ddod i adnabod Jehofa a dechrau ei barchu a’i garu fel dy Dad nefol. Wrth iti ddeall y gwir yn well, cest ti dy ysgogi i stopio gwneud pethau drwg. Ac roeddet ti wir eisiau gwneud pethau a oedd yn plesio Jehofa. Roeddet ti’n teimlo rhyddhad pan wnest ti sylweddoli bod Jehofa wedi maddau iti. (Salm 32:2) Es ti i’r cyfarfodydd a dechrau rhannu’r pethau arbennig roeddet ti wedi eu dysgu ag eraill. Gan dy fod ti wedi cysegru dy hun a chael dy fedyddio, rwyt ti nawr ar y lôn i fywyd ac rwyt ti’n benderfynol o aros arni. (Math. 7:​13, 14.) Gad inni sefyll yn gadarn ac yn sefydlog, a pharhau i garu Jehofa a bod yn ufudd i’w orchmynion. w23.07 17 ¶14; 19 ¶19

Dydd Mawrth, Medi 30

Mae Duw yn ffyddlon, ac ni fydd yn gadael ichi gael eich temtio y tu hwnt i’r hyn rydych chi’n gallu ei oddef, ond bydd hefyd yn dangos y ffordd allan er mwyn ichi allu dyfalbarhau. —1 Cor. 10:13.

Bydd meddwl yn ddwfn am dy weddi o ymgysegriad i Jehofa yn rhoi’r nerth rwyt ti ei angen i wrthod temtasiwn. Er enghraifft, a fyddet ti’n dechrau fflyrtio gyda chymar rhywun arall? Na fyddet siŵr! Byddi di wedi penderfynu gwrthod gwneud hynny’n barod. Ac os dwyt ti ddim yn gadael i deimladau anweddus ddatblygu yn y lle cyntaf, fydd dim rhaid iti frwydro yn nes ymlaen i gael gwared arnyn nhw. Byddi di’n gwrthod “dilyn llwybrau pobl ddrwg.” (Diar. 4:​14, 15)Gall myfyrio ar esiampl Iesu ein helpu ni. Roedd ef yn benderfynol o blesio ei dad. Felly efelycha Iesu, a gwrthoda unrhyw demtasiwn i wneud rhywbeth fydd ddim yn plesio’r Duw rwyt ti wedi ei ymgysegru iddo. (Math. 4:10; Ioan 8:29) Y gwir amdani yw, mae temtasiynau a threialon yn rhoi cyfle inni ddangos ein bod ni’n benderfynol o ddal ati i ddilyn Iesu. Gelli di fod yn hyderus bydd Jehofa yn dy helpu di. w24.03 9-10 ¶8-10

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu