LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • es25 tt. 108-118
  • Tachwedd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Tachwedd
  • Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd—2025
  • Isbenawdau
  • Dydd Sadwrn, Tachwedd 1
  • Dydd Sul, Tachwedd 2
  • Dydd Llun, Tachwedd 3
  • Dydd Mawrth, Tachwedd 4
  • Dydd Mercher, Tachwedd 5
  • Dydd Iau, Tachwedd 6
  • Dydd Gwener, Tachwedd 7
  • Dydd Sadwrn, Tachwedd 8
  • Dydd Sul, Tachwedd 9
  • Dydd Llun, Tachwedd 10
  • Dydd Mawrth, Tachwedd 11
  • Dydd Mercher, Tachwedd 12
  • Dydd Iau, Tachwedd 13
  • Dydd Gwener, Tachwedd 14
  • Dydd Sadwrn, Tachwedd 15
  • Dydd Sul, Tachwedd 16
  • Dydd Llun, Tachwedd 17
  • Dydd Mawrth, Tachwedd 18
  • Dydd Mercher, Tachwedd 19
  • Dydd Iau, Tachwedd 20
  • Dydd Gwener, Tachwedd 21
  • Dydd Sadwrn, Tachwedd 22
  • Dydd Sul, Tachwedd 23
  • Dydd Llun, Tachwedd 24
  • Dydd Mawrth, Tachwedd 25
  • Dydd Mercher, Tachwedd 26
  • Dydd Iau, Tachwedd 27
  • Dydd Gwener, Tachwedd 28
  • Dydd Sadwrn, Tachwedd 29
  • Dydd Sul, Tachwedd 30
Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd—2025
es25 tt. 108-118

Tachwedd

Dydd Sadwrn, Tachwedd 1

O gegau plant a babanod, rwyt ti wedi ennyn clod.—Math. 21:16.

Os oes gen ti blant, helpa nhw i baratoi atebion sy’n addas i’w hoed. Weithiau mae pynciau difrifol yn cael eu trafod, fel problemau yn y briodas neu faterion moesol. Ond mae’n debyg bydd ’na o leiaf un neu ddau o baragraffau lle bydd plentyn yn gallu rhoi sylwad. Hefyd, helpa dy blant i ddeall pam fyddan nhw ddim yn cael eu dewis bob tro maen nhw’n rhoi eu llaw i fyny. Bydd deall hyn yn eu helpu nhw i beidio â theimlo’n siomedig pan fydd eraill yn cael eu dewis. (1 Tim. 6:18) Gall pob un ohonon ni roi atebion sy’n moli Jehofa ac sy’n calonogi ein brodyr a’n chwiorydd. (Diar. 25:11) Efallai gallwn ni roi profiad personol byr ar adegau, ond dylen ni osgoi siarad gormod amdanon ni’n hunain. (Diar. 27:2; 2 Cor. 10:18) Yn lle gwneud hynny, gwna dy orau i ganolbwyntio ar Jehofa, ei Air, a’i bobl.—Dat. 4:11. w23.04 24-25 ¶17-18

Dydd Sul, Tachwedd 2

Mae’n rhaid inni beidio â chysgu fel y mae’r gweddill yn gwneud, ond gadewch inni aros yn effro a chadw’n pennau.—1 Thes. 5:6.

Mae cariad yn hanfodol er mwyn inni aros yn effro a chadw ein pennau. (Math. 22:​37-39) Mae caru Duw yn ein helpu ni i ddal ati i bregethu, hyd yn oed os ydy hynny’n achosi trafferthion inni. (2 Tim. 1:​7, 8) Oherwydd ein bod ni’n caru’r rhai sydd ddim yn gwasanaethu Jehofa, rydyn ni’n parhau i bregethu, gan gynnwys tystiolaethu dros y ffôn neu drwy lythyrau. Rydyn ni’n dal i obeithio bydd ein cymdogion yn newid ac yn dechrau gwneud beth sy’n iawn. (Esec. 18:​27, 28) Rydyn ni hefyd yn caru ein brodyr a’n chwiorydd, ac yn dangos hynny drwy ‘annog ein gilydd a chryfhau ein gilydd.’ (1 Thes. 5:11) Fel milwyr sy’n brwydro ochr yn ochr, rydyn ni’n calonogi ein gilydd. Fydden ni byth yn brifo ein brodyr a’n chwiorydd yn fwriadol nac yn talu drwg am ddrwg i unrhyw un. (1 Thes. 5:​13, 15) Rydyn ni hefyd yn dangos cariad drwy barchu’r brodyr sy’n arwain yn y gynulleidfa.—1 Thes. 5:12. w23.06 9 ¶6; 11 ¶10-11

Dydd Llun, Tachwedd 3

Ydy [Jehofa’n] dweud, a ddim yn gwneud? . . . Na!—Num. 23:19.

Un ffordd gallwn ni gryfhau ein ffydd yw drwy fyfyrio ar y pridwerth. Mae’r pridwerth yn rhoi sicrwydd inni y bydd addewidion Duw yn dod yn wir. Dylen ni fyfyrio ar y rheswm cafodd y pridwerth ei ddarparu, ac ar faint gwnaeth Jehofa ei aberthu. Beth fydd y canlyniad o wneud hynny? Byddwn ni’n cryfhau ein ffydd yn addewid Duw o fywyd tragwyddol mewn byd gwell. Pam gallwn ni ddweud hynny? Wel, beth wnaeth y pridwerth ei gostio? Anfonodd Jehofa ei Fab cyntaf-anedig annwyl, ei ffrind agosaf, o’r nef i gael ei eni’n ddyn perffaith ar y ddaear. Tra oedd Iesu ar y ddaear, gwnaeth ef ddioddef bob math o galedi. Yna cafodd ei roi i farwolaeth yn y ffordd fwyaf erchyll. Am bris anhygoel dalodd Jehofa! Fyddai ein Duw cariadus byth wedi caniatáu i’w Fab ddioddef a marw dim ond er mwyn rhoi bywyd gwell inni am gyfnod byr. (Ioan 3:16; 1 Pedr 1:​18, 19) Ar ôl talu pris mor uchel, bydd Jehofa yn sicrhau bod bywyd tragwyddol yn y byd newydd yn dod yn realiti. w23.04 27 ¶8-9

Dydd Mawrth, Tachwedd 4

O farwolaeth! Ble mae dy blâu di?—Hos. 13:14.

Yn bendant, mae gan Jehofa’r awydd i atgyfodi’r meirw. Mae hynny’n gwbl glir o’r ffaith ei fod wedi ysbrydoli nifer o ysgrifenwyr y Beibl i gofnodi ei addewid am atgyfodiad. (Esei. 26:19; Dat. 20:​11-13) Ac mae Jehofa’n cyflawni pob un o’i addewidion. (Jos. 23:14) Yn wir, mae’n awyddus i atgyfodi’r meirw. Ystyria eiriau Job. Roedd yn hollol siŵr, petasai’n marw, y byddai Jehofa’n dyheu am ei godi’n fyw eto. (Job 14:​14, 15) Mae Jehofa’n teimlo’r un fath am ei holl weision sydd wedi marw, ac mae’n awyddus i ddod â nhw’n ôl yn fyw yn hapus ac yn iach. Beth am y biliynau o bobl sydd wedi marw heb gael cyfle i ddysgu’r gwir am Jehofa? Mae ein Duw cariadus eisiau eu hatgyfodi nhwthau hefyd. (Act. 24:15) Mae eisiau iddyn nhw gael y cyfle i fod yn ffrindiau iddo ac i fyw am byth ar y ddaear.—Ioan 3:16. w23.04 9 ¶5-6

Dydd Mercher, Tachwedd 5

Gyda Duw gallwn wneud pethau mawrion.—Salm 108:13.

Sut gelli di gryfhau dy obaith? Os oes gen ti’r gobaith daearol, darllena ddisgrifiadau o’r Baradwys a myfyria arnyn nhw. (Esei. 25:8; 32:​16-18) Meddylia yn ddwfn am fywyd yn y byd newydd. Dychmyga dy hun yno. Bydd hyn yn ein helpu ni i gadw’r gobaith o’r byd newydd yn glir yn ein meddyliau. Yn wir, “dros dro ac ysgafn” bydd ein treial. (2 Cor. 4:17) Trwy’r gobaith mae Jehofa yn ei roi iti, bydd yn dy wneud di’n gryf. Mae Ef wedi darparu popeth sydd ei angen arnon ni i gael ein cryfhau ganddo. Felly os ydyn ni angen help i gyflawni aseiniad, i ddyfalbarhau ymhlith treialon, neu i aros yn llawen, erfynia ar Jehofa mewn gweddi a gwna dy astudiaeth bersonol. Bydda’n barod i dderbyn anogaeth gan dy gyd-Gristnogion. Cadw dy obaith yn glir yn dy feddwl. Yna, ‘byddi di’n cael dy gryfhau â phob grym yn ôl nerth gogoneddus Duw, fel y gelli di ddyfalbarhau yn llwyr gydag amynedd a llawenydd.’—Col. 1:11. w23.10 17 ¶19-20

Dydd Iau, Tachwedd 6

‘Rho ddiolch iddo am bopeth.’—1 Thes. 5:18.

Mae gynnon ni lawer o resymau i ddiolch i Jehofa mewn gweddi. Gallwn ni ddiolch iddo am unrhyw beth da sydd gynnon ni. Wedi’r cyfan, mae pob rhodd dda yn dod oddi wrtho ef. (Iago 1:17) Er enghraifft, gallwn ni ddiolch iddo am harddwch y ddaear a’r pethau rhyfeddol mae wedi eu creu. Gallwn hefyd roi diolch am ein bywydau, ein teuluoedd, ein ffrindiau, ac am y gobaith sydd gynnon ni. Ac yn sicr, byddwn ni eisiau diolch i Jehofa am adael inni fwynhau perthynas agos ag ef. Efallai bydd rhaid inni wneud ymdrech arbennig i feddwl am y rhesymau rydyn ni’n ddiolchgar i Jehofa. Rydyn ni’n byw mewn byd anniolchgar. Yn rhy aml, mae pobl yn canolbwyntio ar yr hyn maen nhw eisiau, yn hytrach nag ar ddangos eu bod nhw’n ddiolchgar am beth sydd ganddyn nhw. Petai’r agwedd honno yn dylanwadu arnon ni, gallai ein gweddïau droi’n rhestr o bethau rydyn ni eisiau. Er mwyn osgoi hynny, mae’n rhaid inni barhau i weithio ar fod yn ddiolchgar am bopeth mae Jehofa yn ei wneud droston ni a mynegi hynny yn ein gweddïau.—Luc 6:45. w23.05 4 ¶8-9

Dydd Gwener, Tachwedd 7

Fe ddylai barhau i ofyn mewn ffydd, heb amau o gwbl.—Iago 1:6.

Dydy Jehofa, ein Tad cariadus, ddim yn hoffi ein gweld ni mewn poen. (Esei. 63:9) Eto, nid yw’n rhwystro ein holl dreialon a all gael eu cymharu â llifogydd neu fflamau. (Esei. 43:2) Ond mae Jehofa wedi addo ein helpu ni, ac ni fydd yn caniatáu i’n treialon achosi niwed parhaol inni. Hefyd, mae Jehofa yn rhoi ei ysbryd glân pwerus inni er mwyn inni allu dal ati. (Luc 11:13; Phil. 4:13) O ganlyniad, gallwn ni fod yn hyderus y byddwn ni’n wastad yn cael yn union beth rydyn ni ei angen er mwyn dyfalbarhau ac aros yn ffyddlon iddo. Mae Jehofa yn disgwyl inni ymddiried ynddo. (Heb. 11:6) Ar adegau, gallwn ni deimlo ei bod yn amhosib dod dros ein treialon. Gallwn hyd yn oed ddechrau amau a fydd Jehofa’n ein helpu ni. Ond mae’r Beibl yn ein sicrhau ni y gall Jehofa, drwy ei nerth, ein helpu ni i “neidio unrhyw wal.” (Salm 18:29) Felly, yn lle bod yn llawn amheuon, dylen ni weddïo mewn ffydd ac ymddiried yn Jehofa i ateb ein gweddïau. —Iago 1:​6, 7. w23.11 22 ¶8-9

Dydd Sadwrn, Tachwedd 8

Mae fflamau cariad yn dân gwenfflam, yn fflam Jah. Ni all dyfroedd llawn tonnau ddiffodd cariad, ac ni all afonydd ei ysgubo i ffwrdd chwaith. —Caniad Sol. 8:​6, 7, NWT.

Dyna ddisgrifiad hyfryd o wir gariad! Mae’r geiriau hynny’n cynnwys gwirionedd calonogol i gyplau priod. Fe allwch chi gael cariad diddarfod tuag at eich gilydd. Mae cwpl priod yn gorfod rhoi ymdrech i mewn i’w priodas er mwyn cael cariad diddarfod sy’n para ar hyd eu hoes. I egluro, meddylia am dân. Mae ganddo botensial i losgi am byth cyn belled â bod rhywun yn parhau i roi tanwydd arno. Fel arall bydd y tân yn llosgi allan. Mewn ffordd debyg, gall y cariad rhwng gŵr a gwraig bara am byth, cyn belled â’u bod nhw’n dal ati i weithio ar eu perthynas. Pan fydd cwpl dan straen oherwydd problemau ariannol, salwch, neu’r pwysau o fagu plant, gallan nhw deimlo bod eu cariad yn dechrau oeri. Felly er mwyn cadw “fflam Jah” yn fyw, dylai gŵr a gwraig weithio’n galed i gael perthynas agos â Jehofa. w23.05 20 ¶1-3

Dydd Sul, Tachwedd 9

Paid bod ag ofn.—Dan 10:19.

Er mwyn meithrin dewrder, beth sy’n rhaid inni ei wneud? Efallai bydd ein rhieni yn ein hannog ni i fod yn ddewr, ond dydy’r rhinwedd hon ddim yn rhywbeth allwn ni ei etifeddu gan ein rhieni. Mae meithrin dewrder yn debyg i ddysgu sgìl newydd. Un ffordd gelli di feistroli sgìl yw drwy wylio ac efelychu esiampl yr athro. Mewn ffordd debyg, rydyn ni’n dysgu bod yn ddewr drwy edrych yn ofalus ar ddewrder pobl eraill a dilyn eu hesiampl. Fel Daniel, mae’n rhaid inni adnabod Gair Duw yn dda. Mae’n rhaid inni feithrin perthynas agos gyda Jehofa drwy siarad yn agored ag ef yn aml. Ac mae’n rhaid inni drystio Jehofa a bod yn gwbl hyderus y bydd yn ein helpu ni. Yna pan fydd ein ffydd yn cael ei phrofi, byddwn ni’n ddewr.Yn aml, bydd pobl ddewr yn ennill parch. Gallan nhw hefyd helpu eraill i ddod i adnabod Jehofa. Yn bendant, mae rhesymau da dros feithrin dewrder. w23.08 2 ¶2; 4 ¶8-9

Dydd Llun, Tachwedd 10

Gwnewch yn siŵr fod pob peth yn gywir.—1 Thes. 5:21.

Roedd y gair Groeg sydd wedi cael ei gyfieithu “gwnewch yn siŵr” yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio sut roedd pobl yn profi metelau gwerthfawr i weld a oedden nhw’n bur neu beidio. Yn yr un ffordd, rydyn ni angen profi cywirdeb yr hyn rydyn ni’n ei glywed a’i ddarllen. Bydd hyn yn bwysicach byth i ni wrth i’r trychineb mawr agosáu. Yn hytrach na chredu popeth mae eraill yn ei ddweud, rydyn ni’n meddwl yn ofalus ac yn cymharu beth rydyn ni’n ei ddarllen neu’n ei glywed â beth mae’r Beibl a’r gyfundrefn yn ei ddweud. Os gwnawn ni hynny, fyddwn ni ddim yn cael ein twyllo gan bropaganda’r cythreuliaid. (Diar. 14:15; 1 Tim. 4:1) Rydyn ni’n gwybod y bydd pobl Dduw fel grŵp yn goroesi’r trychineb mawr. Ond fel unigolion, dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd yfory. (Iago 4:14) P’un a ydyn ni’n byw drwy’r trychineb mawr neu’n marw cyn hynny, byddwn ni’n cael y wobr o fyw am byth os ydyn ni’n aros yn ffyddlon. Gad inni i gyd ffocysu ar ein gobaith hyfryd ac aros yn barod am ddydd Jehofa! w23.06 13 ¶15-16

Dydd Mawrth, Tachwedd 11

Dydy fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn gwneud dim byd heb ddangos ei gynllun i’w weision y proffwydi.—Amos 3:7.

Dydyn ni ddim yn gwybod yn union sut bydd rhai proffwydoliaethau’r Beibl yn cael eu cyflawni. (Dan. 12:​8, 9) Ond bydd proffwydoliaethau’n dal yn dod yn wir p’un a ydyn ni’n eu deall nhw neu ddim. Yn bendant, gallwn drystio y bydd Jehofa yn helpu ni i ddeall yr hyn rydyn ni angen gwybod ar yr adeg iawn, yn union fel y gwnaeth yn y gorffennol. Bydd ’na ddatganiad o “heddwch a diogelwch.” (1 Thes. 5:3) Yna bydd grymoedd gwleidyddol y byd yn troi ar gau grefydd a’i dinistrio. (Dat. 17:​16, 17) Ar ôl hynny, byddan nhw’n ymosod ar bobl Dduw. (Esec. 38:​18, 19) Bydd y digwyddiadau hyn yn arwain yn uniongyrchol at ryfel Armagedon. (Dat. 16:​14, 16) Gallwn fod yn sicr y bydd y pethau hyn yn digwydd yn fuan. Ond tan hynny, gad inni ddangos i’n Tad nefol ein bod ni’n ddiolchgar drwy dalu sylw i broffwydoliaethau’r Beibl a thrwy helpu eraill i wneud yr un fath. w23.08 13 ¶19-20

Dydd Mercher, Tachwedd 12

Gadewch inni barhau i garu ein gilydd, oherwydd bod cariad yn dod o Dduw.—1 Ioan 4:7.

Pan oedd yr apostol Paul yn trafod ffydd, gobaith, a chariad, gorffennodd drwy ddweud: “Y mwyaf o’r rhain ydy cariad.” (1 Cor. 13:13) Pam felly? Fydden ni ddim angen ffydd yn addewidion Duw am fyd newydd na gobeithio amdanyn nhw unwaith iddyn nhw gael eu gwireddu. Ond, bydden ni wastad angen cariad tuag at Jehofa a thuag at bobl. Mewn gwirionedd, bydd ein cariad yn tyfu am byth. Hefyd, mae dangos cariad tuag at ein brodyr a’n chwiorydd, yn profi ein bod ni’n wir Gristnogion. Dywedodd Iesu wrth ei apostolion: “Bydd pawb yn gwybod eich bod chi’n ddisgyblion i mi os ydych chi’n caru eich gilydd.” (Ioan 13:35) Ar ben hynny, mae cael cariad tuag at ein gilydd yn ein cadw ni’n unedig. Dywedodd Paul fod cariad yn “uno pobl yn berffaith.” (Col. 3:14) Ysgrifennodd yr apostol Ioan at ei gyd-gredinwyr “bod rhaid i bwy bynnag sy’n caru Duw garu ei frawd hefyd.” (1 Ioan 4:21) Pan ydyn ni’n dangos cariad tuag at ein gilydd, rydyn ni’n dangos cariad tuag at Dduw. w23.11 8 ¶1, 3

Dydd Iau, Tachwedd 13

Gadewch inni hefyd daflu i ffwrdd bopeth sy’n pwyso arnon ni.—Heb. 12:1.

Mae’r Beibl yn cymharu ein bywyd Cristnogol â ras. Bydd y rhedwyr sy’n croesi’r llinell derfyn yn derbyn y wobr o fywyd tragwyddol. (2 Tim. 4:​7, 8) Mae’n rhaid inni wneud pob ymdrech i ddal ati i redeg, yn enwedig gyda’r llinell derfyn mor agos. Datgelodd yr apostol Paul rywbeth a fydd yn ein helpu ni i ennill y ras. Dywedodd wrthon ni am “daflu i ffwrdd bopeth sy’n pwyso arnon ni . . . a gadewch inni redeg y ras sydd wedi ei gosod o’n blaenau ni gyda dyfalbarhad.”A oedd Paul yn dweud nad oedd Cristion i gario unrhyw lwyth? Nac oedd. Ei bwynt oedd bod rhaid inni gael gwared ar bob llwyth diangen. Gallai llwyth fel hyn ein dal ni’n ôl ac achosi inni flino’n llwyr. Er mwyn dyfalbarhau, mae’n rhaid inni gydnabod ein bod ni’n cario llwyth diangen ac yna cael gwared ohono’n syth. Ond, mae ’na bethau y dylen ni eu cario, ac mae’n bwysig inni wneud hynny. Os nad ydyn ni, byddwn ni’n anghymwys i redeg y ras.—2 Tim. 2:5. w23.08 26 ¶1-2

Dydd Gwener, Tachwedd 14

Peidiwch ag addurno eich hunain â phethau allanol.—1 Pedr 3:3.

Mae bod yn rhesymol yn ein helpu ni i barchu barn pobl eraill. Er enghraifft, mae rhai chwiorydd yn mwynhau gwisgo colur, ond mae rhai eraill yn dewis peidio. Mae rhai Cristnogion yn mwynhau yfed tipyn bach o alcohol, ond mae rhai yn dewis peidio â’i yfed o gwbl. Mae pob Cristion eisiau gofalu am ei iechyd ond yn gwneud hynny mewn ffyrdd gwahanol. Petasen ni’n teimlo’n gryf am ein syniadau ac yn trio gwthio ein syniadau ar bobl eraill yn y gynulleidfa, bydden ni’n gallu baglu eraill a chreu rhaniadau. (1 Cor. 8:​9, 10:​23, 24) Er enghraifft, dydy Jehofa ddim wedi creu rheolau ar sut dylen ni wisgo, ond mae wedi rhoi egwyddorion inni eu dilyn. Dylen ni wisgo dillad gweddus sy’n anrhydeddu Duw ac sy’n dangos ein bod ni’n “wylaidd a synhwyrol.” (1 Tim. 2:​9, 10;) Felly, dydyn ni ddim eisiau tynnu gormod o sylw aton ni’n hunain oherwydd ein dillad. Mae egwyddorion y Beibl hefyd yn helpu henuriaid i beidio â chreu eu rheolau eu hunain ar wisg a thrwsiad. w23.07 23-24 ¶13-14

Dydd Sadwrn, Tachwedd 15

Gwrandwch yn ofalus arna i! Cewch fwyta bwyd blasus, a mwynhau danteithion.—Esei. 55:2.

Mae Jehofa wedi dangos inni sut i gael dyfodol hapus. Mae’r rhai sy’n derbyn gwahoddiad y ‘wraig wirion’ swnllyd yn canolbwyntio ar fwynhau anfoesoldeb sy’n “felys” yn eu golwg nhw. Bydd hyn yn eu harwain at “y bedd.” (Diar. 9:​13, 17, 18) Ond mae ’na ddyfodol hollol wahanol o flaen y rhai sy’n derbyn gwahoddiad y ddynes sy’n cynrychioli gwir ddoethineb. Rydyn ni’n ceisio caru beth mae Jehofa’n ei garu a chasáu beth mae ef yn ei gasáu. (Salm 97:10) Rydyn ni hefyd yn mwynhau gwahodd eraill i ddysgu o wir ddoethineb. Mae fel petasen ni’n ‘galw ar bobl drwy’r dre. Yn dweud wrth bobl sy’n brin o synnwyr cyffredin, “Dewch yma.”’ Byddwn ni, a’r rhai sy’n ymateb yn cael bendithion parhaol ac yn cael byw am byth wrth inni “gerdded ffordd gall.”—Diar. 9:​3, 4, 6. w23.06 24 ¶17-18

Dydd Sul, Tachwedd 16

Mae ymatal yn well nag ymosod, a rheoli’r tymer yn well na choncro dinas.—Diar. 16:32.

Sut wyt ti’n teimlo pan mae rhywun yn y gwaith neu yn yr ysgol yn gofyn iti am dy ddaliadau? Wyt ti’n teimlo’n nerfus? Mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n teimlo felly. Ond gall cwestiynau o’r fath roi’r cyfle inni ddeall sut mae rhywun yn meddwl, neu beth maen nhw’n ei gredu, a rhoi’r cyfle inni rannu’r newyddion da â nhw. Ond, weithiau gall person godi cwestiwn mewn ffordd heriol. Dydy hynny ddim yn ein synnu. Mae llawer wedi cael y syniad anghywir am ein daliadau. (Act. 28:22) Ar ben hynny, rydyn ni’n byw yn “y dyddiau olaf,” adeg pan mae llawer yn “gwrthod cytuno a phobl eraill” a hyd yn oed yn “ffyrnig.” (2 Tim. 3:​1, 3) Efallai byddi di’n gofyn, ‘Sut galla i ddangos tynerwch pan fydd rhywun yn herio fy naliadau Beiblaidd?’ Beth fydd yn dy helpu di? Mewn gair—addfwynder. Dydy person addfwyn ddim yn ypsetio’n hawdd ac mae’n gallu ei ddal ei hun yn ôl pan mae’n teimlo’n rhwystredig ac yn ansicr. w23.09 14 ¶1-2

Dydd Llun, Tachwedd 17

Bydd dy feibion . . . yn cael eu gwneud yn dywysogion yn y wlad. —Salm 45:16.

Weithiau, rydyn ni’n cael cyngor sy’n ein diogelu ni rhag pethau fel materoliaeth a gweithgareddau sy’n gallu gwneud inni dorri rheolau Duw. Yn hyn o beth hefyd, rydyn ni’n cael ein bendithio o ddilyn yr arweiniad mae Jehofa’n ei roi. (Esei. 48:​17, 18; 1 Tim. 6:​9, 10) Yn bendant, bydd Jehofa yn parhau i ddefnyddio pobl i roi arweiniad yn ystod y trychineb mawr ac ymlaen i’r Teyrnasiad Mil Blynyddoedd. A fyddwn ni’n parhau i wrando ar yr arweiniad hwnnw? Bydd yn haws inni wneud hynny os ydyn ni’n dilyn yr arweiniad mae Jehofa’n ei roi nawr. Felly gad inni ddilyn arweiniad Jehofa bob tro, gan gynnwys yr arweiniad gan ddynion sydd wedi eu penodi i edrych ar ein holau. (Esei. 32:​1, 2; Heb. 13:17) Wrth inni wneud hynny, mae gynnon ni bob rheswm i drystio arweiniad Jehofa, sy’n ein harwain ni i ffwrdd o beryg ysbrydol ac i ben ein taith—bywyd tragwyddol yn y byd newydd. w24.02 25 ¶17-18

Dydd Mawrth, Tachwedd 18

Trwy garedigrwydd rhyfeddol rydych chi wedi cael eich achub.—Eff. 2:5.

Roedd yr apostol Paul yn hapus i wasanaethu Jehofa, ond doedd ei fywyd ddim wastad yn hawdd. Roedd yn teithio pellteroedd maith yn aml, a doedd teithio ddim yn hawdd yr adeg hynny. Weithiau roedd Paul “mewn peryg oherwydd afonydd” ac “mewn peryg oherwydd lladron.” Ar adegau, cafodd ei guro gan wrthwynebwyr. (2 Cor. 11:​23-27) A doedd brodyr Cristnogol Paul ddim wastad yn ddiolchgar am y pethau a wnaeth i’w helpu. (2 Cor. 10:10; Phil. 4:15) Beth wnaeth helpu Paul i barhau i wasanaethu Jehofa? Dysgodd Paul lawer am bersonoliaeth Jehofa drwy ddarllen yr Ysgrythurau, a thrwy ei brofiadau personol. Roedd Paul wedi dysgu bod Jehofa yn ei garu. (Rhuf. 8:​38, 39; Eff. 2:​4, 5) A daeth i garu Jehofa yn fawr iawn. Dangosodd Paul ei gariad at Jehofa “drwy weini ar y rhai sanctaidd a thrwy barhau i wneud hynny.”—Heb. 6:10. w23.07 9 ¶5-6

Dydd Mercher, Tachwedd 19

Dylen ni ufuddhau i’r rhai mewn awdurdod sy’n rheoli droston ni. —Rhuf. 13:1.

Mae llawer o bobl yn cydnabod ein bod ni angen llywodraethau ac y dylen ni ufuddhau i o leiaf rhai o’r rheolau sydd wedi eu gosod gan y “rhai mewn awdurdod.” Ond efallai na fyddan nhw’n ufuddhau i reolau dydyn nhw ddim yn eu hoffi neu rai maen nhw’n teimlo sydd yn annheg. Mae’r Beibl yn cydnabod bod llywodraethau dynol yn achosi dioddefaint. Maen nhw o dan reolaeth Satan a byddan nhw’n cael eu dinistrio’n fuan. (Salm 110:​5, 6; Preg. 8:9; Luc 4:​5, 6) Mae hefyd yn dweud: “Os ydyn ni’n gwrthwynebu eu hawdurdod, rydyn ni’n gweithio yn erbyn Duw.” Mae Jehofa yn caniatáu i’r llywodraethau hyn reoli ar hyn o bryd i gadw trefn, ac mae’n disgwyl inni ufuddhau iddyn nhw. Felly, rhaid inni roi “i bawb yr hyn y dylai ei dderbyn,” gan gynnwys trethi, parch, ac ufudd-dod. (Rhuf. 13:​1-7) Efallai bydd cyfraith yn teimlo’n annheg, yn rhy gostus, neu’n gofyn gormod gynnon ni. Ond rydyn ni’n ufudd i Jehofa ac mae’n dweud wrthon ni am ufuddhau i’r awdurdodau cyn belled nad ydyn nhw’n gofyn inni dorri ei gyfraith.—Act. 5:29. w23.10 8 ¶9-10

Dydd Iau, Tachwedd 20

Dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod arno’n rymus.—Barn. 15:14.

Pan gafodd Samson ei eni, roedd y Philistiaid yn rheoli dros Israel ac yn eu cam-drin yn llym. (Barn. 13:1) Roedd yr Israeliaid yn dioddef yn fawr iawn gan fod y Philistiaid yn hynod o greulon. Dewisodd Jehofa Samson i ‘fynd ati i achub Israel o afael y Philistiaid.’ (Barn. 13:5) Er mwyn cyflawni hynny, byddai’n rhaid i Samson ddibynnu ar Jehofa yn llwyr. Ar un achlysur, daeth byddin y Philistiaid i ddal Samson a oedd, mae’n debyg, yn Jwda. Roedd dynion Jwda’n ofnus, felly penderfynon nhw drosglwyddo Samson i’r gelyn. Gwnaethon nhw rwymo Samson gyda dwy raff newydd a mynd ag ef at y Philistiaid. (Barn. 15:​9-13) Ond “dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod” ar Samson a rhyddhaodd ei hun o’r rhaffau. Yna “dyma fe’n gweld asgwrn gên asyn” a gafael ynddo a’i ddefnyddio i ladd mil o ddynion Philistia.—Barn. 15:​14-16. w23.09 2-3 ¶3-4

Dydd Gwener, Tachwedd 21

Mae hyn yn unol â’r pwrpas tragwyddol y gwnaeth ef ei ffurfio yn gysylltiedig â’r Crist, Iesu ein Harglwydd.—Eff. 3:11.

Mae Jehofa wedi datgelu ei ‘bwrpas tragwyddol’ yn y Beibl. (Eff. 3:11) Oherwydd bod gan Jehofa “bwrpas i bopeth y mae’n ei wneud,” mae’n wastad yn llwyddo. (Diar. 16:4) A bydd canlyniadau gweithredoedd Jehofa yn para am byth. Ond beth ydy pwrpas Jehofa, a sut mae Jehofa wedi addasu pethau er mwyn cyrraedd ei nod? Dywedodd Duw wrth y cwpl cyntaf beth oedd ei bwrpas iddyn nhw: “Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi. Llanwch y ddaear a defnyddiwch ei photensial hi; a bod yn feistr i ofalu am . . . [yr] holl greaduriaid sy’n byw ar y ddaear.” (Gen. 1:28) Pan wrthryfelodd Adda ac Efa, ac achosi i’r holl deulu dynol bechu, ni chafodd pwrpas Jehofa ei stopio. Newidiodd y ffordd y byddai’n cael ei gwblhau. Heb oedi dim, penderfynodd sefydlu Teyrnas yn y nefoedd a fyddai’n cyflawni ei bwrpas gwreiddiol ar gyfer y ddynoliaeth a’r ddaear.—Math. 25:34. w23.10 19-20 ¶6-7

Dydd Sadwrn, Tachwedd 22

Byddai ar ben arna i oni bai fod yr ARGLWYDD wedi fy helpu!—Salm 94:17.

Mae Jehofa yn ein helpu ni i ddal ati. Gall fod yn anodd inni ddal ati, yn enwedig os ydyn ni’n delio â rhyw wendid dros gyfnod hir. Ar adegau gall ein problemau ni deimlo’n waeth na rhai’r apostol Pedr. Ond gall Jehofa roi’r nerth inni beidio â rhoi’r gorau iddi. (Salm 94:​18, 19) Er enghraifft, roedd un brawd yn byw bywyd hoyw am nifer o flynyddoedd cyn dysgu’r gwir. Fe benderfynodd newid ei fywyd yn gyfan gwbl a byw yn ôl safonau’r Beibl. Ond ar adegau, roedd yn dal i frwydro yn erbyn chwantau drwg. Beth oedd yn ei helpu i ddal ati? Mae’n dweud: “Jehofa sy’n ein cryfhau ni.” Mae’n ychwanegu: “Dw i wedi dysgu bod yr ysbryd glân yn rhoi’r gallu inni aros yn y gwir. Rydw i wedi bod yn ddefnyddiol i Jehofa ac, er gwaethaf fy amherffeithrwydd, y mae yn parhau i roi nerth imi.” w23.09 23 ¶12

Dydd Sul, Tachwedd 23

Mae gostyngeiddrwydd a parch at yr ARGLWYDD yn arwain i gyfoeth, anrhydedd a bywyd.—Diar. 22:4.

Cofia, os wyt ti’n frawd ifanc, fyddi di ddim yn aeddfedu’n ysbrydol dros nos. Mae’n rhaid iti ddewis esiamplau da i’w hefelychu, datblygu’r gallu i feddwl, bod yn ddibynadwy, dysgu sgiliau ymarferol, a pharatoi ar gyfer dy gyfrifoldebau yn y dyfodol. Frodyr ifanc, rydyn ni’n eich caru chi! Efallai bydd y gwaith sydd o dy flaen di yn teimlo’n ormod iti. Ond gelli di lwyddo. Cofia fod Jehofa eisiau dy helpu di. (Esei. 41:​10, 13) Wrth gwrs, bydd dy frodyr a dy chwiorydd yn y gynulleidfa yn dy helpu di hefyd. Pan wyt ti’n cyrraedd dy botensial fel Cristion aeddfed, bydd dy fywyd yn llawn bodlonrwydd. Rydyn ni eisiau i Jehofa dy fendithio di wrth iti ddod yn Gristion aeddfed. w23.12 29 ¶19-20

Dydd Llun, Tachwedd 24

Mae i’w ganmol am faddau i rywun sy’n pechu yn ei erbyn.—Diar. 19:11.

Dychmyga dy fod ti’n cwrdd â rhai o dy frodyr a dy chwiorydd. Rwyt ti’n cael amser da ac rwyt ti’n penderfynu tynnu llun o’r grŵp. Er mwyn gwneud yn siŵr bod y llun yn troi allan yn dda, rwyt ti’n tynnu dau lun arall. Nawr, mae gen ti dri llun. Ond, yn un o’r lluniau, dydy un brawd ddim yn gwenu. Felly, rwyt ti’n dileu’r llun hwnnw, gan fod gen ti ddau lun arall o’r grŵp lle mae’r brawd yn gwenu. Fel arfer, mae gynnon ni atgofion melys o dreulio amser gyda’n brodyr a’n chwiorydd. Ond petasai brawd neu chwaer yn dweud neu’n gwneud rhywbeth sy’n dy frifo di, sut byddet ti’n cofio’r digwyddiad hwnnw? Mae’n rhaid inni ei anghofio, yn union fel y bydden ni’n dileu un o’r lluniau. (Eff. 4:32) Gallwn ni wneud hynny oherwydd bod gynnon ni atgofion melys o dreulio amser gydag ef neu hi. Yr atgofion hynny ydy’r rhai rydyn ni eisiau eu trysori. w23.11 12-13 ¶16-17

Dydd Mawrth, Tachwedd 25

[Dylai merched] eu gwneud eu hunain yn hardd drwy wisgo’n weddus,. . . fel sy’n briodol i ferched sy’n proffesu defosiwn i Dduw.—1 Tim. 2:​9, 10.

Mae’r geiriau Groeg sy’n cael eu defnyddio fan hyn yn rhoi’r syniad y dylai gwisg fod yn barchus a dylen ni ystyried teimladau ac agweddau pobl eraill. Rydyn ni’n ddiolchgar i’r chwiorydd aeddfed sy’n gwisgo’n weddus! Mae doethineb yn rhinwedd arall mae chwiorydd aeddfed yn eu dangos. Beth mae’n ei olygu i fod yn ddoeth? Mae’n golygu i fod yn gall—dweud y gwahaniaeth rhwng da a drwg ac yna dewis gwneud y peth iawn. Ystyria esiampl Abigail. Gwnaeth ei gŵr wneud penderfyniad annoeth a oedd am achosi canlyniadau drwg i’r teulu a phawb a oedd o dan ei ofal. Gweithredodd Abigail yn syth. Gwnaeth ei dewis doeth hi achub bywydau. (1 Sam. 25:​14-23, 32-35) Mae doethineb hefyd yn ein helpu ni i wybod pryd i siarad a phryd i aros yn ddistaw. Hefyd, mae’n ein helpu ni i gadw cydbwysedd wrth ddangos diddordeb mewn eraill.—1 Thes. 4:11. w23.12 20 ¶8-9

Dydd Mercher, Tachwedd 26

Gallwn ni lawenhau oherwydd bod gynnon ni’r gobaith o dderbyn gogoniant gan Dduw.—Rhuf. 5:2.

Ysgrifennodd yr apostol Paul y geiriau hynny at y gynulleidfa yn Rhufain. Roedd y brodyr a’r chwiorydd yno wedi dysgu am Jehofa ac Iesu, wedi ymarfer ffydd, ac wedi dod yn Gristnogion. Gwnaeth Duw felly eu ‘galw’n gyfiawn o ganlyniad i’w ffydd,’ a gwnaeth eu heneinio ag ysbryd glân. (Rhuf. 5:1) Yn wir, gwnaethon nhw dderbyn gobaith rhagorol. Yn nes ymlaen, ysgrifennodd Paul at y Cristnogion yn Effesus i sôn am eu gobaith. Roedd y gobaith hwnnw yn cynnwys etifeddiaeth i’r rhai sanctaidd. (Eff. 1:18) Ac wrth ysgrifennu at y Colosiaid, esboniodd Paul lle byddai eu gobaith. Dywedodd fod y gobaith hwnnw wedi “ei neilltuo . . . yn y nefoedd.” (Col. 1:​4, 5) Felly mae gan Gristnogion eneiniog y gobaith o gael eu hatgyfodi i’r nefoedd lle byddan nhw’n teyrnasu gyda Iesu.—1 Thes. 4:​13-17; Dat. 20:6. w23.12 9 ¶4-5

Dydd Iau, Tachwedd 27

Bydd heddwch Duw sydd y tu hwnt i bob deall yn gwarchod eich calonnau a’ch meddyliau.—Phil. 4:7.

Roedd y gair gwreiddiol am ‘warchod’ yn derm milwrol am filwyr a oedd yn gwarchod dinas rhag ymosodiad. Roedd pobl y ddinas yn gallu cysgu’n braf o wybod bod milwyr yn gwarchod y giatiau. Yn debyg, pan fydd heddwch Duw yn ein gwarchod, byddwn ni’n teimlo tawelwch meddwl ac emosiynol oherwydd byddwn ni’n saff. (Salm 4:8) Fel yn achos Hanna, hyd yn oed os nad ydy ein sefyllfa yn newid yn sydyn, gallwn ni deimlo’n hapusach. (1 Sam. 1:​16-18) O ganlyniad, bydd yn haws inni feddwl yn glir a gwneud penderfyniadau da. Beth gallwn ni ei wneud? Pan wyt ti o dan straen, galwa ar y gwarchodwr, fel petai. Sut? Gweddïa nes dy fod ti’n profi heddwch Duw. (Luc 11:9; 1 Thes. 5:17) Os wyt ti’n wynebu treial, dal ati i weddïo a byddi di’n profi heddwch Duw yn gwarchod dy galon a dy feddwl.—Rhuf. 12:12. w24.01 21 ¶5-6

Dydd Gwener, Tachwedd 28

Ein Tad yn y nefoedd, gad i dy enw gael ei sancteiddio.—Math. 6:9.

Er mwyn sancteiddio enw ei Dad, cafodd Iesu ei arteithio, ei sarhau, a’i gamgyhuddo. Roedd yn gwybod ei fod wedi ufuddhau i’w Dad ym mhob peth; doedd ganddo ddim byd i deimlo cywilydd amdano. (Heb. 12:2) Roedd yn gwybod hefyd fod Satan yn ymosod arno’n uniongyrchol yn yr oriau anodd hynny. (Luc 22:​2-4; 23:​33, 34) Roedd Satan yn ceisio cael Iesu i blygu, ond gwnaeth ef fethu yn llwyr! Profodd Iesu yn llwyr fod Satan yn gelwyddgi creulon. Mae gan Jehofa weision sy’n aros yn ffyddlon, hyd yn oed o dan amgylchiadau anodd iawn! Hoffet ti blesio dy Frenin? Parha i foli enw Jehofa, ac i helpu eraill i ddod i adnabod rhinweddau hyfryd ein Duw. Wrth iti wneud hyn, byddi di’n dilyn olion traed Iesu. (1 Pedr 2:21) Fel Iesu, rwyt ti’n gwneud calon Jehofa yn hapus ac yn profi bod Ei elyn, Satan, yn gelwyddgi! w24.02 11-12 ¶11-13

Dydd Sadwrn, Tachwedd 29

Sut alla i dalu nôl i’r ARGLWYDD am fod mor dda tuag ata i?—Salm 116:12.

Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae dros filiwn o bobl wedi cael eu bedyddio fel Tystion Jehofa. Pan wyt ti’n cysegru dy hun i Jehofa, rwyt ti’n dewis dod yn un o ddisgyblion Iesu, ac ewyllys Duw fydd y peth pwysicaf yn dy fywyd. Ond beth mae ymgysegriad Cristnogol yn ei gynnwys? Dywedodd Iesu: “Os oes unrhyw un eisiau dod ar fy ôl i, gadewch iddo ei wadu ei hun.” (Math. 16:24) Gall yr ymadrodd Groeg sydd wedi cael ei gyfieithu ‘gwadu ei hun’ hefyd golygu “dweud na wrth ei hun.” Fel un o weision cysegredig Jehofa, bydd rhaid iti ddweud na wrth unrhyw beth sy’n mynd yn erbyn ei ewyllys. (2 Cor. 5:​14, 15) Mae hynny’n cynnwys dweud na wrth ‘weithredoedd y cnawd,’ fel anfoesoldeb rhywiol. (Gal. 5:​19-21; 1 Cor. 6:18) A fydd cyfyngiadau o’r fath yn gwneud dy fywyd yn anodd? Nid os wyt ti’n caru Jehofa ac yn hollol hyderus bod ei gyfreithiau yn dda iti.—Salm 119:97; Esei. 48:​17, 18. w24.03 2 ¶1; 3 ¶4

Dydd Sul, Tachwedd 30

Rwyt ti wedi fy mhlesio i’n fawr iawn.—Luc 3:22.

Mae Jehofa’n rhoi ei ysbryd glân i’r rhai sy’n ei blesio. (Math. 12:18) Er enghraifft, a wyt ti wedi llwyddo i ddangos rhan o ffrwyth yr ysbryd yn dy fywyd? A wyt i’n fwy amyneddgar nawr nag oeddet ti cyn dod i adnabod Jehofa? Mewn gwirionedd, wrth iti ddangos rhinweddau ysbryd Duw yn fwy yn dy fywyd, bydd hi’n fwy amlwg byth dy fod ti’n plesio Jehofa! Ar sail pris aberth Iesu, mae Jehofa yn maddau i’r rhai sy’n ei blesio. (1 Tim. 2:​5, 6) Ond beth os ydy ein calonnau yn ein condemnio ni drwy ddweud dydy Jehofa ddim yn hapus gyda ni, er bod gynnon ni ffydd yn y pridwerth ac wedi cael ein bedyddio? Cofia, allwn ni ddim trystio ein teimladau o hyd, ond rydyn ni’n wastad yn gallu trystio Jehofa. Os oes gan rywun ffydd yn y pris a gafodd ei dalu gan Iesu, mae Jehofa’n ei weld yn gyfiawn ac yn addo ei fendithio.—Salm 5:12; Rhuf. 3:26. w24.03 30 ¶15; 31 ¶17

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu