LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Croeso.
Adnodd ymchwil ar gyfer cyhoeddiadau mewn amryw ieithoedd a gynhyrchir gan Dystion Jehofa yw hwn.
Er mwyn lawrlwytho cyhoeddiadau, dos at jw.org.
Cyhoeddiad
Ieithoedd newydd ar gael: Betsimisaraka (Northern), Betsimisaraka (Southern), Konkomba, Matses, Mi'kmaq
  • Heddiw

Dydd Mawrth, Hydref 14

Dyma fe’n gwrando ar eu cyngor nhw, [ac yn] troi cefn ar deml yr ARGLWYDD.—2 Cron. 24:​17, 18.

Un wers rydyn ni’n ei dysgu oddi wrth y Brenin Jehoas yw bod angen inni ddewis ffrindiau sy’n caru Jehofa ac sydd eisiau ei wneud yn hapus. Bydd ffrindiau fel hyn yn ein helpu ni i wneud penderfyniadau da. Mae’n bosib inni fod yn ffrindiau â phobl ifanc a phobl mewn oed. Cofia roedd Jehoas yn llawer iau na’i ffrind Jehoiada. Gofynna iti dy hun: ‘A ydy fy ffrindiau yn fy helpu i gryfhau fy ffydd yn Jehofa? A ydyn nhw’n fy annog i fyw yn unol â safonau Duw? A ydyn nhw’n siarad am Jehofa a’i wirioneddau? A ydyn nhw’n parchu safonau Duw? A ydyn nhw’n dweud wrtho i bethau dw i eisiau eu clywed yn unig, neu a ydyn nhw’n fy nghywiro i pan fydd angen?’ (Diar. 27:​5, 6, 17) Yn wir, os nad ydy dy ffrindiau’n caru Jehofa, pam byddet ti eisiau bod yn ffrindiau gyda nhw? Ond os ydy dy ffrindiau’n caru Jehofa, cadwa nhw fel ffrindiau oherwydd byddan nhw’n dy helpu di.—Diar. 13:20. w23.09 9 ¶6-7

Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd—2025

Dydd Mercher, Hydref 15

Fi ydy’r Alffa a’r Omega.—Dat. 1:8.

Alffa ydy llythyren gyntaf yr wyddor Roeg, ac omega ydy’r olaf. Drwy ddisgrifio ei hun fel yr “Alffa a’r Omega,” mae Jehofa yn dweud pan mae’n dechrau rhywbeth, bydd bob amser yn ei orffen. Dywedodd Jehofa wrth Adda ac Efa: “Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi. Llanwch y ddaear a defnyddiwch ei photensial hi.” (Gen. 1:28) Pan siaradodd Jehofa am ei bwrpas am y tro cyntaf, roedd fel petai yn dweud “Alffa.” Bydd yr amser yn dod pan fydd disgynyddion perffaith a ffyddlon Adda ac Efa yn llenwi’r ddaear ac yn ei gwneud yn baradwys. Ar yr adeg honno, bydd fel petai Jehofa yn dweud “Omega.” Ar ôl gorffen y gwaith o “greu y bydysawd a phopeth sydd ynddo,” dywedodd Jehofa rywbeth i’n sicrhau y byddai ei bwrpas yn siŵr o ddod yn wir. Gwnaeth Jehofa addo y byddai’n cyflawni ei bwrpas ar gyfer dynolryw a’r ddaear ar ddiwedd y seithfed diwrnod.—Gen. 2:​1-3. w23.11 5 ¶13-14

Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd—2025

Dydd Iau, Hydref 16

Cliriwch y ffordd i’r ARGLWYDD yn yr anialwch; gwnewch briffordd syth i Dduw drwy’r diffeithwch!—Esei. 40:3.

Roedd y daith o Fabilon i Israel yn un anodd oedd yn gallu cymryd tua phedwar mis. Ond gwnaeth Jehofa addo byddai unrhyw beth a oedd yn ymddangos fel rhwystr yn cael ei glirio o’r ffordd. Er byddai’n rhaid i’r Iddewon aberthu llawer er mwyn mynd yn ôl, i’r rhai ffyddlon, roedd y bendithion yn werth yr aberth. Un o’r bendithion mwyaf fyddai cael adfer addoliad pur. Doedd dim un deml i Jehofa ym Mabilon. Doedd dim allor lle roedd Iddewon yn gallu cynnig aberthau yn ôl Cyfraith Moses, a doedd dim offeiriaid i offrymu’r aberthau hynny. Ar ben hynny, roedd ’na lawer iawn mwy o baganiaid ym Mabilon nag o bobl Jehofa. Felly roedd rhaid i’r Iddewon fyw yng nghanol y bobl hyn oedd heb unrhyw barch at Jehofa na’i safonau. Felly, roedd miloedd o Iddewon oedd yn parchu Duw yn edrych ymlaen at fynd yn ôl i’w mamwlad ac i addoli Jehofa yn y ffordd iawn. w23.05 14-15 ¶3-4

Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd—2025
Croeso.
Adnodd ymchwil ar gyfer cyhoeddiadau mewn amryw ieithoedd a gynhyrchir gan Dystion Jehofa yw hwn.
Er mwyn lawrlwytho cyhoeddiadau, dos at jw.org.
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu