Dydd Mercher, Hydref 15
Fi ydy’r Alffa a’r Omega.—Dat. 1:8.
Alffa ydy llythyren gyntaf yr wyddor Roeg, ac omega ydy’r olaf. Drwy ddisgrifio ei hun fel yr “Alffa a’r Omega,” mae Jehofa yn dweud pan mae’n dechrau rhywbeth, bydd bob amser yn ei orffen. Dywedodd Jehofa wrth Adda ac Efa: “Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi. Llanwch y ddaear a defnyddiwch ei photensial hi.” (Gen. 1:28) Pan siaradodd Jehofa am ei bwrpas am y tro cyntaf, roedd fel petai yn dweud “Alffa.” Bydd yr amser yn dod pan fydd disgynyddion perffaith a ffyddlon Adda ac Efa yn llenwi’r ddaear ac yn ei gwneud yn baradwys. Ar yr adeg honno, bydd fel petai Jehofa yn dweud “Omega.” Ar ôl gorffen y gwaith o “greu y bydysawd a phopeth sydd ynddo,” dywedodd Jehofa rywbeth i’n sicrhau y byddai ei bwrpas yn siŵr o ddod yn wir. Gwnaeth Jehofa addo y byddai’n cyflawni ei bwrpas ar gyfer dynolryw a’r ddaear ar ddiwedd y seithfed diwrnod.—Gen. 2:1-3. w23.11 5 ¶13-14
Dydd Iau, Hydref 16
Cliriwch y ffordd i’r ARGLWYDD yn yr anialwch; gwnewch briffordd syth i Dduw drwy’r diffeithwch!—Esei. 40:3.
Roedd y daith o Fabilon i Israel yn un anodd oedd yn gallu cymryd tua phedwar mis. Ond gwnaeth Jehofa addo byddai unrhyw beth a oedd yn ymddangos fel rhwystr yn cael ei glirio o’r ffordd. Er byddai’n rhaid i’r Iddewon aberthu llawer er mwyn mynd yn ôl, i’r rhai ffyddlon, roedd y bendithion yn werth yr aberth. Un o’r bendithion mwyaf fyddai cael adfer addoliad pur. Doedd dim un deml i Jehofa ym Mabilon. Doedd dim allor lle roedd Iddewon yn gallu cynnig aberthau yn ôl Cyfraith Moses, a doedd dim offeiriaid i offrymu’r aberthau hynny. Ar ben hynny, roedd ’na lawer iawn mwy o baganiaid ym Mabilon nag o bobl Jehofa. Felly roedd rhaid i’r Iddewon fyw yng nghanol y bobl hyn oedd heb unrhyw barch at Jehofa na’i safonau. Felly, roedd miloedd o Iddewon oedd yn parchu Duw yn edrych ymlaen at fynd yn ôl i’w mamwlad ac i addoli Jehofa yn y ffordd iawn. w23.05 14-15 ¶3-4
Dydd Gwener, Hydref 17
Parhewch i gerdded fel plant goleuni.—Eff. 5:8.
Er mwyn ymddwyn “fel plant goleuni,” rydyn ni angen help ysbryd glân Duw. Pam? Oherwydd mae’n her i aros yn lân yn y byd anfoesol hwn. (1 Thes. 4:3-5, 7, 8) Gall yr ysbryd glân ein helpu ni i frwydro yn erbyn meddylfryd y byd, gan gynnwys ei athroniaethau a’i safbwyntiau eraill sy’n groes i ffordd Jehofa o feddwl. Gall yr ysbryd glân hefyd ein helpu ni i feithrin “pob math o ddaioni a chyfiawnder a gwirionedd.” (Eff. 5:9) Dywedodd Iesu y byddai Jehofa’n “rhoi’r ysbryd glân i’r rhai sy’n gofyn iddo.” (Luc 11:13) Felly un ffordd o dderbyn yr ysbryd glân yw drwy weddïo. Hefyd, gallwn ni ei dderbyn drwy foli Jehofa yn ein cyfarfodydd Cristnogol. (Eff. 5:19, 20) Bydd dylanwad da’r ysbryd glân yn ein helpu ni i fyw mewn ffordd sy’n plesio Jehofa. w24.03 23-24 ¶13-15