Dydd Iau, Hydref 16
Cliriwch y ffordd i’r ARGLWYDD yn yr anialwch; gwnewch briffordd syth i Dduw drwy’r diffeithwch!—Esei. 40:3.
Roedd y daith o Fabilon i Israel yn un anodd oedd yn gallu cymryd tua phedwar mis. Ond gwnaeth Jehofa addo byddai unrhyw beth a oedd yn ymddangos fel rhwystr yn cael ei glirio o’r ffordd. Er byddai’n rhaid i’r Iddewon aberthu llawer er mwyn mynd yn ôl, i’r rhai ffyddlon, roedd y bendithion yn werth yr aberth. Un o’r bendithion mwyaf fyddai cael adfer addoliad pur. Doedd dim un deml i Jehofa ym Mabilon. Doedd dim allor lle roedd Iddewon yn gallu cynnig aberthau yn ôl Cyfraith Moses, a doedd dim offeiriaid i offrymu’r aberthau hynny. Ar ben hynny, roedd ’na lawer iawn mwy o baganiaid ym Mabilon nag o bobl Jehofa. Felly roedd rhaid i’r Iddewon fyw yng nghanol y bobl hyn oedd heb unrhyw barch at Jehofa na’i safonau. Felly, roedd miloedd o Iddewon oedd yn parchu Duw yn edrych ymlaen at fynd yn ôl i’w mamwlad ac i addoli Jehofa yn y ffordd iawn. w23.05 14-15 ¶3-4
Dydd Gwener, Hydref 17
Parhewch i gerdded fel plant goleuni.—Eff. 5:8.
Er mwyn ymddwyn “fel plant goleuni,” rydyn ni angen help ysbryd glân Duw. Pam? Oherwydd mae’n her i aros yn lân yn y byd anfoesol hwn. (1 Thes. 4:3-5, 7, 8) Gall yr ysbryd glân ein helpu ni i frwydro yn erbyn meddylfryd y byd, gan gynnwys ei athroniaethau a’i safbwyntiau eraill sy’n groes i ffordd Jehofa o feddwl. Gall yr ysbryd glân hefyd ein helpu ni i feithrin “pob math o ddaioni a chyfiawnder a gwirionedd.” (Eff. 5:9) Dywedodd Iesu y byddai Jehofa’n “rhoi’r ysbryd glân i’r rhai sy’n gofyn iddo.” (Luc 11:13) Felly un ffordd o dderbyn yr ysbryd glân yw drwy weddïo. Hefyd, gallwn ni ei dderbyn drwy foli Jehofa yn ein cyfarfodydd Cristnogol. (Eff. 5:19, 20) Bydd dylanwad da’r ysbryd glân yn ein helpu ni i fyw mewn ffordd sy’n plesio Jehofa. w24.03 23-24 ¶13-15
Dydd Sadwrn, Hydref 18
Daliwch ati i ofyn, a bydd yn cael ei roi ichi; daliwch ati i geisio, a byddwch chi’n darganfod; daliwch ati i gnocio, a bydd y drws yn cael ei agor ichi.—Luc 11:9.
Oes angen mwy o amynedd arnat ti? Os felly, gweddïa amdano. Mae amynedd yn rhan o ffrwyth yr ysbryd. (Gal. 5:22, 23) Felly gallwn ni weddïo am ysbryd glân a gofyn i Jehofa am help i feithrin ei ffrwyth. Os ydyn ni’n wynebu sefyllfa sy’n profi ein hamynedd, rydyn ni’n ‘dal ati i ofyn’ am yr ysbryd glân i’n helpu ni i fod yn amyneddgar. (Luc 11:13) Gallwn ni hefyd ofyn am help Jehofa i weld y sefyllfa o’i safbwynt ef. Ac ar ôl gweddïo, mae’n rhaid inni wneud ein gorau i fod yn amyneddgar bob dydd. Os ydyn ni’n dal ati i weddïo am amynedd a gwneud ein gorau i’w ddatblygu, bydd Jehofa yn ein helpu ni i feithrin y rhinwedd hon hyd yn oed os nad oedden ni’n berson amyneddgar o’r blaen. Mae meddwl yn ddwfn am esiamplau o’r Beibl hefyd yn helpu. Mae ’na lawer o esiamplau yn y Beibl o bobl a oedd yn dangos amynedd. Drwy feddwl am yr hanesion hyn, gallwn ni ddysgu sut i fod yn amyneddgar. w23.08 22-23 ¶10-11